Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/333

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1877, 78; rhif y plant, 54; rhif yr athrawon, 18, athrawesau, 3, ysgolheigion, 117, cyfanrif yr ysgol, 138; gosodid 160 o eisteddleoedd allan o'r 250 y cyfrifid a ddaliai'r capel; gwrandawyr, 177; cyfartaledd prin eisteddle yn y chwarter, 6c.; y ddyled, £404; y casgl at y weinidogaeth, £10 12s. 7g. (am y gyfran o'r flwyddyn er y sefydliad).

Byrr fel yma yw adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885): "Nid oes yma ystafell i'r plant, ac felly llafurir gyda hwy dan anfantais. Ceid y dosbarthiadau wedi eu trefnu yn ganmoladwy. Carasem weled mwy o awydd ac ymdrech i ddeall yr hyn a ddarllennir."

Mai 29, 1890, dewiswyd yn flaenoriaid, R. Williams Fachgoch, W. Williams Gorffwysfa, E. Lloyd Griffith Brongadfan. Yn Hydref y dechreuodd R. W. Jones Llys Ifor bregethu.

Ionawr 31, 1893, y bu farw Owen Griffith Brongadfan. Gwr parod i gyflawni'r gorchwyl distadlaf gyda wyneb siriol. Efe a ofalai am agor y capel a'i oleuo o'r cychwyn hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd hynny yn ffynonnell cysur iddo ar wely angeu. Dywedai yno yr hoffai fyw er mwyn cael cyflawni'r un goruchwylion eto. Holwr plant swynol. Gwlith ar ei weddi gyhoeddus. Ei annedd yn gartref pregethwyr. Ymhoffai mewn dangos caredigrwydd iddynt ac mewn ymddiddan â hwy. Fis cyn marw cafodd weledigaeth ar y gogoniant nefol, y fath na cheisiai mo'i hadrodd, ond a adawai ei hol arno yn nieithrwch ei wedd dranoeth. Ar brynhawn Sul y cipiwyd ef ymaith yn swn y mawl yn y capel cyfagos ar derfyn y gwasanaeth. (Goleuad, 1894, t. 153).

Ionawr 1, 1894, rhoes y Parch. T. Gwynedd Roberts ofal yr eglwys hon a Rhostryfan i fyny. Yr un mis y dechreuodd John W. Jones Hafod y rhos bregethu. Y flwyddyn hon sicrhawyd darn o'r comin am £5 10s.

Parhaodd swyddogaeth yr eglwys heb yr un bwlch am ddeunaw mlynedd, heb gyfrif ymadawiad y bugail ychydig dros flwyddyn a hanner yn gynt. Y cyntaf a alwyd ymaith oedd William Jones Llwyncelyn, tad y Parch. R. W. Jones Dinas Mawddwy, yr hwn fu farw Awst 14, 1895, yn 71 oed, ac yn un o'r blaenoriaid cyntaf yma. Brodor o Leyn ydoedd ef. Buasai yng ngwasanaeth Hugh Hughes Gellidara a John Owen Ty'n llwyn pan yn ieuanc, a chy-