feiriai weithiau at y fantais a gawsai yn y gwasanaeth hwnnw. Athraw ffyddlon am lawer blwyddyn. Cydnabyddiaeth nodedig â'r Hen Destament yn ei gymhwyso yn fawr i'r cylch hwn. Ni phallai yn ei ddyddordeb yn yr eglwys yn ystod misoedd o lesgedd tua diwedd ei oes, ac ni phallai ychwaith mewn gweddi drosti y pryd hwnnw.
Ebrill, 1896, rhoddwyd galwad i'r Parch. J. O. Williams. Dechreuodd ar ei lafur yn nechre 1897.
Mawrth 4, 1897, bu farw Robert Jones, yn 76 oed, ac yn flaenor yma o'r cychwyn, a chyn hynny yn Horeb er 1874. Brodor o'r fro hon, ac yma y treuliodd bron yr oll o'i oes. Hynodrwydd. ynddo yn llanc, fel yn ei frodyr. Glasynys ydoedd un ohonynt. Y Parch. Robert Owen a roes gyfeiriad iddo. Cymerai ef gydag ef i gynnal cyfarfodydd dirwestol yn yr ardaloedd oddiamgylch. Daeth yn amlwg fel siaradwr y pryd hwnnw. Dyma fel y dywed Mr. Gwynedd Roberts am dano: "Yr oedd yntau, fel ei frodyr, yn fardd lled dda. Cyfansoddodd gryn lawer o ddarnau, yn enwedig ar Ddirwest. Yn amser y Washington Club, neu y Clwb Du, fel ei gelwid weithiau, cyhoeddwyd casgliad o ganiadau dan yr enw Y Tlws Dirwestol, y rhai genid gydag afiaeth brwd drwy'r wlad. Yn y casgliad hwnnw yr oedd rhai caniadau o eiddo R. Jones,— 'Robyn Ddu o Arfon,' fel ei gelwid; ac yr wyf yn tybied fod cymaint rhagoriaeth yn rhai R. Jones ag unrhyw rai yn y llyfr. Parhaodd yn ddirwestwr aiddgar drwy ei oes, ac yn areithiwr dirwestol gwerthfawr. Yr oedd ei gydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau yn bur eithriadol. Dyma un esiampl. Mewn seiat yn Rhostryfan, cyn sefydlu eglwys yn Rhosgadfan, ymddiddan yr oeddid y noswaith honno â chwiorydd ieuainc, a rhai yn lled afrwydd i ddweyd dim. Gofynnid i un ohonynt o'r diwedd, ymha ran o'r Beibl y darllennai hi yn yr ysgol y Sul cynt? Atebodd hithau mai yn Efengyl Ioan, a'i bod yn tybied mai yn y bedwaredd bennod arddeg. Gofynnwyd ar ol hynny am beth y mae'r bennod honno yn sôn? Nid oedd hi yn cofio dim am hynny. Gwedi dwyn yr ymddiddan ar y llawr i ben, gofynnwyd i un neu ddau o'r blaenoriaid ddweyd gair. Dywedodd R. Jones fod yn syn ganddo glywed y chwaer ieuanc yn dweyd nad oedd hi'n cofio dim o'r bedwaredd arddeg o Ioan, yn enwedig gan ei bod yn darllen y bennod mor ddiweddar a'r Sul. 'Er na fum i,' meddai, 'yn darllen mo'r bennod yn ddiweddar, mi fedrwn ddweyd beth sydd ynddi. 'Rydwi'n meddwl y medrwn.