Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/335

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ddweyd, o ran hynny, be' sy ym mhob un o benodau Ioan, er na fuom i yn darllen dim yn benodol o Ioan ers tro.' Yna rhoes grynodeb byrr, clir a chywir o benodau Ioan hyd y bedwaredd arddeg, nes y synai pawb yn y lle, ac yr oedd yn ddigon eglur i ni y gallasai fyned ymlaen oni buasai ei bod yn amser dibennu y cyfarfod. Mawrhae yr ysgol Sul. Yr oedd ei holl galon a'i holl gydwybod yn ei gwaith. Nid oedd athraw ffyddlonach na gwell yn yr ardaloedd. Am flynyddoedd lawer, dosbarth o chwiorydd oedd dan ei ofal, ac amryw ohonynt yn eang eu gwybodaeth ysgrythyrol, ac yn addfed iawn eu profiad ysbrydol. Am rai blynyddoedd bu cynifer a phedair arddeg o chwiorydd yn aelodau o'i ddosbarth, a'r oll ohonynt yn gwisgo bob ei spectol,—golygfa go led nodedig. Ac ni fynnai yr un ohonynt golli yr ysgol er dim, am fod y dosbarth a'i waith mor gymeradwy ganddynt. Yr oedd efe yn adnabyddus drwy'r cylch fel un o'r "colofnau." Bu yn llywydd Cyfarfod Ysgol Dosbarth Uwchgwyrfai. Nid oedd neb a elwid i lefaru mewn Cyfarfod Ysgol yn fwy cymeradwy a phoblogaidd na Robert Jones. Edrychid ymlaen gydag awch am gyfarchiad ganddo ef. Yr oedd yn berchen llawer o fedr i roi cynghor priodol mewn cyfarfod eglwysig, ac i'w roi mewn ffurf hawdd i'w gofio, ac i'w roi yn afaelgar. Gwasanaethed un esiampl. Daeth yn orfod disgyblaeth eglwysig ar un o'r cyfeillion ieuanc rywbryd oherwydd diffyg gwyliadwriaeth. Yn y seiat ag yr oedd achos y gwr ieuanc gerbron, meddai Robert Jones wrtho, 'Gwylia di, o hyn allan; gwylia o hyd, a phaid eto a mynd yn agos i'r lle syrthiesti rwan. Mi dorais i 'nghoes flynyddoedd yn ol, fel y gwyddochi. Mi gefais godwm ar garreg lithrig sydd yn y llwybr acw. Y mae ol y codwm arna'i eto. 'Rydw'i dipyn yn gloff hyd heno. Ydechi'n meddwl 'mod i wedi rhoi 'nhroed ar y garreg honno wedyn? Naddo, byth! Naddo,—mi fydda'i'n mynd rownd y garreg lithrig fyth ar ol y codwm. Gwylia dithe'r garreg lithrig, 'machgen i. Gwyliwch, a gweddiwch fel nad eloch i brofedigaeth.' Ar un adeg yn arbennig yr wyf yn cofio am dano yn gosod arbenigrwydd ar "wirionedd oddifewn,"—crefydd yn egwyddor oddifewn, ac nid yn dibynnu ar amgylchiadau oddiallan. Yna rhoes ddisgrifiad o'r stêmer a'r llong hwyliau. Adgofiai y stêmer gyntaf welodd pobl Rhosgadfan yn croesi Bau Caernarvon, a disgrifiai fel yr oeddynt yn ceisio dyfalu beth ydoedd,—ai llong ar dân oedd hi? Sut bynnag, ymlaen yr elai y llestr, gan fwrw allan golofn o fwg. Adgofiai am y rhai ymfudent i'r America yn