Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/339

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Parchn. D. Lloyd Jones, Francis Jones a Thomas Gray. Sefydlwyd eglwys yma ar nos Iau, Ebrill 1, 1880. Y cenhadon o'r Cyfarfod Misol, y Parch. Dafydd Morris Bwlan, a'r Mri. Griffith Lewis Penygroes ac Owen O. Jones Carmel. Yn ol M. W. Jones, y Parch. Gwynedd Roberts a John Owen Bwlan oedd gyda Dafydd Morris. Dichon fod y naill wedi eu henwi, a'r lleill wedi dod. De- wiswyd yn flaenoriaid y noswaith honno: Thomas Williams Ty'n-rhos, drwy bleidlais agored, yn gymaint a'i fod yn flaenor eisoes yn y fam-eglwys, ac hefyd, Hugh R. Owen Ysgol y Bwrdd, a Hugh Jones Rhandir.

Pregethwyd y Sul cyntaf gan y Parch. John Owen, M.A., Criccieth. Unwyd Brynrhos yn daith â Cesarea.

Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1880, 97; rhif y plant, 70; rhif athrawon yr ysgol Sul, 19, athrawesau, 3, y cyfanrif, 145, cyfartaledd presenoldeb, 108; gwrandawyr, 193, y capel yn dal 250, gyda 175 o eisteddleoedd yn cael eu gosod; y ddyled, £300.

Tachwedd 2, 1882, dewiswyd Daniel Thomas Hafod boeth yn flaenor.

Ymunodd John H. Jones Rhandir â'r eglwys ar ei sefydliad, wedi ei godi yn bregethwr eisoes ym Mrynrodyn. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1881. Bu farw Ebrill 22, 1883, yn 26 oed. Fel Timotheus, yr ydoedd er yn fachgen yn gwybod yr ysgrythyr lân, ac fel yntau fe'i gwnaethpwyd ef yn ddoeth i iachawdwriaeth drwyddi. Yn ymostyngar i'r drefn yn ei gystudd olaf.

Owen Williams Tal y llyn, aelod gweithgar, â'i deimlad crefyddol yn ffres, ac yn wr gafaelgar mewn gweddi, a fu farw Mai 20, 1885.

Yn 1888, symudodd H. R. Owen i Ffestiniog, wedi bod yn flaenor ffyddlon a gweithgar am wyth mlynedd.

Hydref 23, 1889, dewiswyd Evan Owen Bryngwenallt a William Jones Bryn Menai i'r swyddogaeth.

William Parry Frondeg oedd wr ffyddlon, selog, parod ar yr alwad at waith, parod ar alwad ei Feistr, pan gyfarfyddodd âg ef mewn damwain yn chwarel Dorothea, Ionawr 1, 1892.

Gwr defnyddiol oedd Owen Morris Tyddyn Meinsier. Eang ei wybodaeth yn yr ysgrythyr, a'r adgof am ei weddiau yn hiraethlawn.