Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/341

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TANRALLT.[1]

Y MAE'R lle hwn yr ochr arall i'r dyffryn gyferbyn ag ardal Talsarn. Olrheinir cychwyniad cyntaf yr achos yma i'r ysgol Sul a fu'n cael ei chynnal ym Mhencraig, pan oedd John Michael yn preswylio yno. Yr oedd hynny tua'r flwyddyn 1825. Yr oedd dilynwyr y Methodistiaid yn ardaloedd Tanrallt a Nebo yn ymrannu tua Phen- craig, fel yr oedd rhyw gysylltiad rhwng yr ysgol honno â'r achos yn y naill le a'r llall. Cynorthwyid John Michael ynglyn â'r ysgol hon gan Griffith Williams Taleithin, William Roberts Maesneuadd a William Evans Talymaes. (Canmlwyddiant, t. 22). Ar ymadawiad John Michael, collodd yr ysgol ei nodded ym Mhencraig.

Ar ol bod am ysbaid yn ddigartref, agorwyd drws i'r ysgol gan Thomas Edwards yn ei dŷ ei hun yn Nhaldrwst, ac arosodd yno tua phedair blynedd. Ymadawodd yntau â'r gymdogaeth, a bu'r ardal heb ysgol am ddeng mlynedd.

Tuag 1850, adeiladodd cwmni chwarel Tanrallt farrics i'r gweithwyr, a chaniatawyd cadw'r ysgol yno am flynyddoedd. Wedi hynny rhoes Turell, goruchwyliwr y cwmni, ganiatad i gadw'r ysgol mewn tŷ gwâg, ar ardreth o ddau swllt yn y flwyddyn. Rhowd caniatad, drachefn, ym mhen encyd o amser i newid y tŷ hwnnw am dŷ helaethach. Yno, yn ystod y 12 mlynedd cyn adeiladu'r capel, buwyd yn cynnal pregethu achlysurol.

Tua dechre 1881 fe ddechreuwyd anesmwytho am gapel. Nid oeddid wedi bod heb awydd am gapel ers mwy nag 20 mlynedd. Yr anhawster i symud yn yr achos ydoedd fod y tiroedd o amgylch dan brydles gan gwmniau y chwarelydd cylchynol. Y pryd hwn. fe sicrhawyd tir gan H. J. Ellis Nanney ar brydles o 80 mlynedd o 1882 am bum swllt yn y flwyddyn. Ar ol cael yr addewid am y tir y rhoddwyd caniatad i adeiladu'r capel, sef yng Nghyfarfod Misol Seion, Mai 16, 1881.

Adeiladwyd y capel a'r tŷ ar draul o £930. Y cynllunydd, John Thomas Rhostryfan. Yr adeiladydd, Robert Jones Bontnewydd. Agorwyd ar Awst 28, 1882, pryd y gwasanaethwyd gan D. Lloyd Jones Llandinam, Francis Jones Abergele a D. Charles Davies. Yr oedd £260 o'r ddyled wedi eu talu erbyn yr agoriad.

  1. Ysgrif Mr. Evan Roberts (Beatrice). Ysgrif Mr. Evan Roberts ar flaenoriaid ymadawedig a hen arolygwyr ysgol Tanrallt.