Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/349

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lled ddisyfyd y galwyd ef ymaith. Ymagorodd fel rhosyn, ac edwinodd fel rhosyn ym meusydd Saron, ond nid cyn dangos ei liw a rhoi allan ei arogl. (Goleuad, 1900, Mehefin 6, t. 3).

Dyma adroddiad ymwelydd y Canmlwyddiant: "Amryw yn amrhydlon. Hwyrfrydigrwydd i ddefnyddio'r gwers-lenni. Egwyddori da yn y dosbarthiadau. Amryw athrawon yn gwneud eu gwaith yn effeithiol. Gwelliant fyddai canu ar ddiwedd y wersddarllen, a chanu mwy o donau y plant. Egwyddori y plant ar ddiwedd yr ysgol yn dda iawn. John Roberts."

Rhif yr eglwys yn 1900, 196.