Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/350

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GLANRHYD[1]


FFRWYTH ymgynghoriad Meyrick Griffith a Simon Hobley oedd cychwyn ysgol Sul ynghymdogaeth pentref Llanwnda. Cychwynnwyd yng ngweithdy John William Thomas, Wesleyad o ran enwad, yn 1869. (Am fanylion pellach, edrycher Brynrodyn). Wedi cael ysgoldy yn 1872, a phrofi o'r gwaith yn llwyddiannus, fe gafwyd oedfa ar brynhawn Sul ymhen rhai blynyddoedd.

Dechreuwyd cynhyrfu am gapel i'r gymdogaeth yn 1897. Cyflwynwyd llecyn o dir i'r amcan gan Thomas Williams Gwylfa. Cydsyniai eglwys Brynrodyn âg adeiladu capel yma, ac anogwyd i symud ymlaen gan y Cyfarfod Misol. Asgellhaid Brynrodyn ydyw Glanrhyd.

Agorwyd y capel ar Gorffennaf 6, 1899, yn adeilad hardd gydag ysgoldy fechan. Yr holl draul yn £2,800. Cymhellwyd y gwaith ymlaen gan rodd Thomas Williams, sef £1,000. Cynwysai'r capel 300 o eisteddleoedd.

Nos Iau ydoedd noswaith yr agoriad, pryd y traddodwyd pregeth gan Mr. David Williams, oddiar Luc vi. 6-10. Y nos Wener ddilynol daeth y Parchn. Evan Jones a T. J. Wheldon a Mr. J. E. Roberts Bangor ar ran y Cyfarfod Misol i sefydlu'r eglwys. Ymunodd 60 y noswaith gyntaf, aelodau o Frynrodyn yn bennaf, ond yn cynnwys rhai, hefyd, o'r Bwlan a'r Bontnewydd a Rhostryfan, a rhai eraill yn dod o'r newydd. Daeth y Parch. David Williams yma o Frynrodyn ar sefydliad yr eglwys.

Gwasanaethwyd y Sul cyntaf gan Mr. Richard Humphreys Bontnewydd, a'r ail Sul gan Mr. John Davies Brynrodyn. Rhif yr ysgol y Sul cyntaf, 80; yr ail Sul, 93. Y casgl cyntaf a wnaed ar nos Sul, Awst 6, sef £1 11s. 7c. Y casgl cyntaf at y weinidogaeth a wnawd ar nos Fercher, Awst 9, sef £4 16s. 6c. Gweinyddwyd y Sacrament ar nos Sul, Awst 27, gan Mr. David Williams.

Awst 30, dewiswyd i'r swyddogaeth: Thomas Williams Gwylfa, William Jones Bodaden, William Griffith Maen Gwyn a Jethro Jones. Y cyntaf yn flaenor yn y Bwlan cyn hyn, a'r ail yn Rhos-

  1. Ysgrif Mr. William Jones Bodaden.