Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams Ty'n-y-berth, William Williams Henbant mawr, John Williams Ty'ntwll, William Parry Brynhafod, William Jones Ty gwyn. Nid oedd yr un o'r rhai'n yn fyw pan ddaeth Mr. Howell Roberts i Glynnog yn niwedd 1861, oddigerth John Williams Ty'ntwll a oedd wedi ymfudo i'r America; ac yr oedd tymor lliaws ohonynt ymhell iawn yn ol cyn hynny.

Heb sôn am yr un neu ddau a enwyd mewn cysylltiadau neilltuol, y mae rhai eraill o'r gwyr hyn ag y mae iddynt goffad- wriaeth parchus yn yr ardal. Y mwyaf ei ddylanwad ohonynt i gyd, debygid, a'r mwyaf felly o holl flaenoriaid y Capel Uchaf o'r dechre hyd yn awr, ydoedd William Parry. Bu ef farw Ionawr 12, 1861, yn 70 mlwydd oed. Gwr cydnerth, lled dal, gyda gwyneb llyfn, glandeg. Tawel, digynwrf, arafaidd. Un llygad yn cau ac yn agor gryn dipyn; ond pan agorid hwnnw yn llawn, fel y gwneid weithiau, yr oedd rhywbeth yn dreiddiol ofnadwy ynddo. Elai Capten Jones Dinas heibio iddo yn ei gerbyd unwaith, a gwr ydoedd ef a arferai regi'r penaugryniaid, ys dywedai yntau. "Pwy ydi'r dyn yna ?" gofynai i'r coachman. "O! un o'r penaugryniaid," ebe'r coachman. "Pengrwn neu beidio," ebe'r capten, "mae rhywbeth yn y dyn yna !" Golwg difrif iawn arno bob amser: un o'r dynion mwyaf difrif yr olwg arno a welwyd un amser braidd. Heb ysgol, fe ddysgodd ddefnyddio llyfrau Seisnig. Ni bu erioed allan o'r gymdogaeth i aros dim, ond manteisiai ar bob cyfle a gaffai i ddysgu oddiwrth eraill. Yr oedd y noswaith y daeth i'r seiat am y tro cyntaf yn un gofiadwy. Daeth i mewn braidd yn hwyr, ac aeth ymlaen at y fainc o flaen y sêt fawr, a chan fyned i lawr ar ei liniau yn y fan honno, fe ymollyngodd i wylo. A pharhau i wylo yr ydoedd: ni ddywedai ddim, ac ni ddywedid dim wrtho. A'r diwedd fu i'r holl seiat ymollwng i wylo, a myned adref wedyn. heb fod neb wedi dweyd gair. A hon oedd y seiat fwyaf byw ar feddwl y sawl oedd yno o bob seiat erioed. Fe fu ei yrfa grefyddol. yn deilwng o'r dechre hwn mewn wylo: fe hauodd mewn dagrau, a medodd mewn gorfoledd. Efallai ei fod ef cyn hyn yn athraw, canys fe fu'n cadw ysgol nos yn y capel ar ddiwedd blwyddyn, pan fyddai'n gyfleus i weision amaethwyr ddod yno, am ysbaid o amser. Yr oedd yn athraw rhagorol yn yr ysgol Sul. Collodd Sul o'i ddosbarth unwaith; a'r Sul nesaf drachefn yr oedd heb fod yno. Beth wnaeth y dosbarth yr ail Sul hwnnw, oddeutu deuddeg of honynt, ond myned gyda'u gilydd i'w gartref, sef Brynhafod.