Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oes dim hanes iddo golli cymaint a Sul o'i ddosbarth ar ol hynny, os na byddai rhywbeth anorfod wedi digwydd. Fel holwyddorwr yr oedd yn nodedig. Tynnai sylw pob llygad ar unwaith. Yn grynedig ei lais ar y dechre, a dalen y llyfr y cydiai ynddi yn crynu, nes twymno yn ei waith. Yna fe'i teimlid yn feistr y gynulleidfa, a phawb yn ei law. Yr oedd yn weddiwr hynod. "Iesu Grist a hwnnw wedi ei groeshoelio" ydoedd ei air mawr ef mewn gweddi. Mewn gweddi fe fyddai fel gwr yn ymaflyd yn nerth yr Hollalluog. Er yn wr tawel, neilltuedig, meddai ar ddawn gyhoeddus anghyffredin. Rhywbeth yn ei gyfarchiad yn adgoffa am John Jones Talsarn gyda llais soniarus, fe gychwynnai dipyn yn araf ac isel, gan godi'n raddol fel yr elai ymlaen. Fe'i cyfrifid yn wr o gynghor, ac yr oedd yn dangnefeddwr. Diwinydd craff, a chanddo feddwl treiddlym. Ceisiwyd ganddo fyned i bregethu gan rai o bobl y Cyfarfod Misol, ond ni fynnai; ac fe'i camgymerwyd ef am bregethwr yn y Cyfarfod Misol droion. Cyfyngodd ei ddylanwad i lecyn bychan, ac o fewn terfynnau y llecyn hwnnw yr oedd yn wr mawr yn Israel.

Gwr heb fod ond prin yn ail i William Parry ar ryw gyfrifon oedd William Williams Henbant mawr. Cydoesai'r ddau. Yr ydoedd yn ymresymwr, yn wr o wybodaeth gyffredinol, yn ddawnus, yn anhyblyg, ac yn naturiol yn arweinydd. Ei duedd yn hytrach ydoedd cadw eraill draw yn ormodol. Efe a ymfudodd i'r America gyda theulu lliosog yn haf y flwyddyn 1845, ac fel William R. Williams yr adnabyddid ef yn ardal Columbus, Wisconsin. Fe fu'n un o swyddogion gwerthfawrocaf yr Eglwys Gymreig yno dros weddill ei oes. Bu farw Mehefin 5, 1855, yn 66 mlwydd oed. (Gweler Hanes Eglwysi'r Trefnyddion Calfinaidd, Columbus, Wis., 1898, t. 23, gan y Parch. J. R. Jones).

John Williams Ty'ntwll a ragorai fel cerddor. Ymunodd â chrefydd yn niwygiad 1832. Gwnawd ef yn flaenor yn 1840. Aeth i Columbus, America, yn 1850. Galwyd ef yn flaenor yn eglwys Bethel ar ei fynediad yno. O dymer hynaws a dawn hyfryd, ac arosodd gwres y diwygiad ynddo hyd ddiwedd ei oes. Bu farw Awst 20, 1894, yn 92 mlwydd oed. (Gweler Hanes Eglwysi Columbus, t. 51).

Hydref 14, 1857, y bu farw y Parch. William Roberts, yn 84 mlwydd oed, wedi dechre pregethu ers o leiaf 53 mlynedd, ac wedi