Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ordeinio ers 38 mlynedd. Pan o saith i wyth mlwydd oed aeth at John Roberts (Llangwm) i'r ysgol yn y capel. Yr oedd hynny yn ystod 1780-1. Bu yno am hanner blwyddyn, a bu yn yr ysgol gyda'r un gwr wedi hynny am chwarter blwyddyn yn Nhaly- garnedd, ym mhlwyf Llanllyfni. Cafodd chwarter arall gyda John Walter yn "eglwys y bedd" Clynnog, ac agos i chwarter arall gyda Richard y Felin Gerryg yn yr un man. Fel gwas fferm ac ar hyd ei oes yr oedd ynddo syched am wybodaeth. Yn 1793 yr ymaelododd yn y Capel Uchaf. Gwelwyd eisoes mai efe oedd y cyntaf a ddaeth i gynorthwyo John Owen a Griffith Owen efo'r ysgol Sul. Ar ol bod mewn gwasanaeth am ryw hyd, fe ymgymerodd a gofal yr Hendre bach, ei dyddyn genedigol, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Pan y byddai gartref, efrydu a chyfansoddi oedd ei waith pennaf yn ychwanegol at weinyddu yng nghynulliadau crefyddol yr ardal. Ymddanghosodd llyfr iddo ar Fedydd yn 1845; efrydodd y proffwydoliaethau gyda thrylwyredd; ac yr oedd yn dra hysbys yng nghynnwys y Beibl, yn gymaint felly fel y gallai adrodd rhannau helaeth ohono yn rhwydd a rhugl. Teithiodd lawer i bregethu ac i ddadleu o blaid gwahanol gymdeithasau, yn enwedig y Feibl Gymdeithas. Pan y byddai ymdrin cyffredinol ar bwnc mewn Cyfarfod Misol, arno ef y gelwid yn ddieithriad i'w agor, a hynny, mae'n ddiau, ar gyfrif ysgrythyroldeb ei ymdrin arno. Fe gyfleai y pwnc bob amser yn esmwyth a naturiol trwy gyfrwng y testynau mwyaf priodol iddo o fewn yr ysgrythyr, a hynny gyda'r fath hwylusdod a helaethrwydd a fyddai'n syndod i bawb. Ysgrifennwyd cofiant iddo gan Eben Fardd i'r Drysorja am 1858 (t. 387), ac yn y modd hyn y disgrifir ef ganddo : "Dyn o faintioli hytrach mwy na'r cyffredin, a golwg iach a chryf arno, o ymddanghosiad amaethwr parchus, oddieithr ei wisg ddu. . . . Yr oedd ynddo ryw naws ysgafn o sarugrwydd disiapri, a dueddai i gadw un mewn ychydig bellter oddiwrtho, nes dyfod yn bur gynefin âg ef. Yr oedd ei lygaid mor gryfion, fel hyd yn oed yn ei henaint y gallai ddarllen yn rhwydd heb wydrau, hyd yr amser y collodd ei olwg yn llwyr. . . . Ei lais oedd deneu a chwynfanus. Ei ymddygiad yn syml a dirodres. O ran ei berson yr oedd yn edrych yn heinyf a lluniaidd, yn ddyn caled. ac anfoethus. . . . Er nad oedd yn hoffi disgyn i dir cymdeithasol y werin ddiaddurn, eto byddai yn craffu yn ddifyrus ar chwareuaeth syml natur o fewn y cylch hwnnw, ac yn tynnu llawer o hanesynau diddan oddiwrth yr hyn a ddigwyddai ddyfod dan