Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei ddefnydd o adnodau'r Beibl, gan mor briodol a chyfaddas i'w hamcan oeddynt, a chan y nerth oedd yn yr adroddiad ohonynt.

Siani Ellis oedd yn hynod ymhlith y chwiorydd, fel y ceir sylwi arni hi eto ynglyn â hanes Ebenezer. Mari William Tai'n lôn oedd yn fyw iawn ei theimlad. Y llygedyn lleiaf mewn gweddi, hi a deimlai oddiwrtho yn y fan. Mari William a Sian Ifan y Felin a gydient yn nwylaw eu gilydd i neidio pan fyddai'r teimlad wedi codi yn uchel. Mari William yn gyffredin a arweiniai yn y gorfoledd, a'r Wenynen Fawr y gelwid hi. A gwraig o hynodrwydd oedd Catrin, merch Robert Roberts, priod Rhys Owen, a mam John Owen Bwlan a nain Mr. John Owen Caer, gan fod dylanwad crefydd yn fodrwyog ac yn ymestyn mewn cylchoedd ar wyneb y môr o wydr. Yr oedd Rhys Owen a'i wraig yn aelodau yn y Bwlan yn rhan olaf eu hoes (Gweler Bwlan). Mari Sion Ty'ntwll oedd un hynod arall. Marged Dafydd hefyd, cyfnither John Elias, a mam y Parch. John Jones Brynrodyn, a Mr. Joseph Jones, un o flaenoriaid y Capel Uchaf, yn awr (1909) yn byw yn y Groeslon, Llanwnda. Ar ol iddi hi fyned yn analluog i gerdded i'r capel, cawsai bregeth yn y tŷ ar noson waith yn awr a phryd arall. Pregethodd Dewi Arfon iddi ar y Bod o Dduw a'i briodoliaethau. Dewi," ebe hi wrtho cyn myned ohono ymaith, "pan y bydda fi yn myned y ffordd yna i feddwl am Hollwybodaeth a Hollbres- enoldeb, mi fyddaf yn boddi, wel di, a da iawn fydd gen i droi at Iesu Grist am fy mywyd."

Pan ddeuai y bobl hyn ynghyd i'w cynulliad eglwysig, fe ddeuai gwahanol elfennau i'r golwg ynddynt. Yr oeddynt gan mwyaf yn bobl syml, unplyg, onest, yn ddiffygiol weithiau mewn coethder a'r teimlad o briodoldeb, ond nid oedd pawb felly, gan fod rhai ohonynt yn fonedd natur ac wedi eu puro drwy dân. Dywed Mr. John Williams y byddent yn troi i holi'r gweinidog mewn dull syml, ac y byddai'r holi weithiau ar fin myned yn groesholi. Efe a noda fel yr elfen o nerth ynddynt, fod yr ychydig lyfrau a ddarllennid ganddynt yn cael eu darllen yn drwyadl, ac yn arbennig y byddai rhai ohonynt yn myfyrio yng nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos.

Edrydd Mr. Howell Roberts am un gwr yn sefyll i fyny mewn cyfarfod brodyr, gan bwyntio gyda'i fys at hen flaenor cymeradwy, "Yr wyti, hwn a hwn," ebe fe, "yn felltith i'r achos yn y Capel