Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yntau ym mhethau y Tŷ, fel yr eiddo Hugh Jones, ond ei syniad am y Tŷ yn eangach, gan yr ymhyfrydai yng nghymdeithas y saint o'r tuallan i'r gymdeithas eglwysig ffurfiol, a chan yr ymwelai â'r claf a'r adfydus. Ni pherthynnai i'w natur gael ei sugno i mewn cyn belled a Hugh Jones i gyfeiriad y gororau glaswyn; ond rhagorai arno ef mewn mwynhad gwastad o'r efengyl a'i hordinhadau, ac yn amrywiaeth ei wasanaeth. Yr oedd cysondeb o bob math yn perthyn iddo ef. Enghraifft ydoedd efe o wr yn dod yn fwy-fwy amlwg yng ngwaith yr Arglwydd. Yr ydoedd tua deunaw oed cyn dechre dysgu darllen. Bu am flynyddoedd meithion, drachefn, ar ol ei wneuthur yn flaenor cyn y traethai brofiad uchel. Arferai gynildeb ar amser yn gyhoeddus, er fod ganddo ddawn hwylus, yn enwedig efo'r plant, a dawn i gynghori. Cynyddu yn raddol. a ddarfu efe, ac addfedu yn amlwg, gan ymroi fwy-fwy i bob gwaith da, nes ei fod wedi ennill serch yr ardal yn llwyr. Llewyrchodd fwy-fwy, ac yr oedd ei ddiwedd yn dangnefedd.

Yn 1868 y gwnawd Thomas Williams Brynhafod a Joseph Jones Ffactri Tai'nlon yn flaenoriaid. Bu Thomas Williams farw ymhen ychydig flynyddau. William Jones a ddaeth yma o'r Penrhyn, lle'r oedd yn flaenor, a chyn hynny ym Meddgelert, a bu farw yn 1888. Yn 1888 y derbyniwyd Owen Jones Henbant bach yn flaenor, nai i'r gwr arall o'r un enw. Bu ef farw yn 1891, yn wr cwbl deilwng o'i ewythr. John Jones Felin Faesog a ddaeth yma o Bwlchderwydd, ac a fu farw yn 1890, yn fuan ar ol dod yma. Derbyniwyd David Jones, Robert Williams a David Ellis Hughes yn flaenoriaid yn 1891. William Jones Brynhafod a ddaeth yma o Frynengan yn 1891, ac a aeth ymaith i Bantglas. Henry Jones Tai'nlon yn 1891 o Frynaerau. Robert Jones Brynhafod a symudodd yma o Frynaerau ac a aeth oddiyma i Bontnewydd John Edwards Tynewydd a fu'n flaenor yn Nebo ac yn Caerhun cyn hynny, a galwyd ef i'r swydd yma yn 1893. Elias Prichard Bryn- hafod oedd yn y swydd ym Mhantglas, a chyn hynny yn Cwmcoryn, a galwyd ef iddi yma.

Robert Evans a ddechreuodd bregethu yn 1889, ar ol hynny yn Llanddynan, ger Llangollen. J. R. Jones Tain'lon a ddechreuodd tua 1895. O. S. Roberts yn 1897, a symudodd yn fuan i gyffiniau Llangollen.

Robert Foulk, taid John Jones Brynrodyn, oedd y dechreuwr canu cyntaf hyd y gwyddys. Dilynwyd ef gan Dafydd Jones