Dyma ddwy bennill allan o linellau coffadwriaethol iddo gan Eben Fardd, a gafwyd ar hen gerdyn:
Gwisgo 'rydoedd lifrai'r nefoedd,
Arddel Iesu Grist yn hy'.
Fel mewn cynulleidfa gyhoedd,
Felly gartref yn ei dŷ;
Mynych gyrchai i'r pregethau,-
Cofiai'r cwbl a gai ei ddweyd ;
Traethai eilwaith swm y pethau,
Gan eu selio trwy eu gwneud.
Trwy dduwioldeb ymarferol,
Ei ddylanwad ydoedd gref;
Yn ei ardal cadwai reol,--
Yn ei dŷ fe'i perchid ef;
Trwy ei dymer bwyllog, wastad,
Hoff gan bawb o'i deulu oedd ;
Trwy ei gyson ymarweddiad,
Parch ei ardal gai ar goedd.
Rhif yr eglwys yn 1854, 59. Y flwyddyn honno nid oedd dim dyled ar yr achos. Swm y derbyniadau yn flynyddol am y seti y pryd hwnnw, £11. Cyfartaledd pris eisteddle, 6ch. y chwarter. Ni nodir swm y casgl at y weinidogaeth yn yr Ystadegau am y flwyddyn honno. Cynwysai'r capel eisteddleoedd i 162, ac yn 1858 fe osodid yr oll ohonynt. Erbyn hynny yr oedd y derbyniadau am y seti wedi codi deg swllt. Nodir mai'r defnydd a wneid o arian y seti ydoedd paentio ac adgyweirio. Nifer yr eglwys y flwyddyn hon, 61. Fe nodir yn 1860 fod yr eisteddleoedd yn 183, ac y gosodid 180 o honynt. A ychwanegwyd at eu nifer, heblaw yn yr Ystadegau, wŷs? Rhaid nad oedd pawb ddim yn talu am ei sêt y pryd hwnnw, mwy nag yn awr, canys £11 10s. yw'r derbyniadau y flwyddyn hon eto. Rhif yr eglwys wedi codi i 144. Y cynnydd er 1858 yn 83, ac yn 22 yn ystod 1860. Y casgl at y weinidogaeth wedi codi o £14 yn 1858 i £36 3s. yn 1860. Rhif yr eglwys yn 1862, 125; yn 1866, 123; yn 1900, 215. Swm y ddyled yn 1900, £460.