CAPEL SEION.[1]
FE ddywedir ym Methodistiaeth Cymru ddarfod codi capel Seion ar ol diwygiad 1818. Yn 1826 yr adeiladwyd y capel. Eithr yr oedd yn yr ardal eglwys yn flaenorol, sef yn nhŷ Griffith Williams Hen Derfyn. Tebyg mai ffrwyth diwygiad 1818 ydoedd cychwyn achos yn yr Hen Derfyn, er ei bod yn debyg y cynelid ysgol yno o'r blaen. Un o ddau dŷ yn ymyl eu gilydd oedd eiddo Griffith Williams. Preswylydd y tŷ arall oedd Griffith Thomas. Yr oedd y tai yn sefyll o fewn ychydig latheni i'r ffrwd sy'n derfyn rhwng plwyfydd Clynnog a Llanaelhaiarn, ac ar ochr Llanaelhaiarn i'r ffrwd, yn ymyl y brif-ffordd bresennol. Nid oes dim o'r ddau dŷ hyn yn aros ers llawer blwyddyn, ac ni wnaed y brif-ffordd hyd ryw amser ar ol iddynt gael eu tynnu i lawr. Nid oedd ar y pryd eglwys arall yn nes i'r Hen Derfyn na Chwmcoryn ar un llaw a Chapel Uchaf ar y llaw arall.
Mab Ynys Hwía oedd Griffith Williams, a symudodd i'r Terfyn wrth briodi gweddw oedd yn byw yno. Yr oedd i'r weddw honno un ferch, sef Catherine Evans, a phriododd hi John Williams Aber- afon, ac y mae iddynt amryw ddisgynyddion yn amlwg gyda'r achos. Priododd Griffith Williams eilwaith, y tro hwn gyda Betty Jones, merch y Penrhyn, Llanengan, a chwaer i John Jones Penrhyn, y pregethwr.
Y blaenoriaid ar gychwyn yr achos oeddynt Evan Pyrs Llwyn yr Aethnen, Ellis Evans Mur mawr, Clynnog, sef gwr i ferch Evan Pyrs, Griffith Roberts Tanygraig a Griffith Williams. O'r rhai hyn, Evan Pyrs yn ei ddydd a gymerai arno unrhyw ofal angenrheidiol ynglyn â'r pregethwyr, ac efe fyddai yn eu cydnabod am eu llafur. Ni sonir llawer am yr elfen chwareus yn Evan Richardson Caernarvon, ond rhaid ei bod ynddo ef. "Beth a wnes i iti, Evan?" fe ofynnai unwaith i wr y tâl, newydd dderbyn ohono'r gydnabyddiaeth arferol, "pan yr wyti yn rhoi'r hen chwech i mi fel hyn bob tro?" Ellis Evans a arweiniai'r gân ymhlith y cwmni bychan yn yr Hen Derfyn. Lled ddilewyrch y dywedir fod y canu, fel yn y
rhan fwyaf o leoedd y pryd hwnnw o ran hynny. Gwr o awdurdod
- ↑ Ysgrif y Parch. Howell Roberts (Hywel Tudur), ac ymddiddanion â'r brodorion.