Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd John Jones Edeyrn, ac fe ymyrrai â'r canu fel â phethau eraill. "Beth yw'r ddau ganu sydd gennych yma ?" fe ofynnai unwaith yn yr Hen Derfyn. Os y "cwrr acw o'r doif sy'n cadw'r amser priodol, canlynwch hwy," oedd y gorchymyn; "ond os y dyn yma," sef Ellis Evans, "sy'n cadw'r amser, dilynwch ef." Ar un Sul, pan oedd Richard Jones y Wern,—yr hwn fu am dymor ym Mrynaerau, ac a oedd yno ar y pryd efallai,—eisoes yn y pulpud yn amser yr Hen Derfyn, dyma John Jones Edeyrn heibio gyda'i gyfaill James Hughes. Ni phregethai John Jones heb i'w gyfaill James Hughes wneud, a llwyddodd i gael gan Richard Jones ddod. o'r pulpud heb dramgwydd, a phregethodd James Hughes o'i flaen ef, ond yr oedd y trefniad yn radd o brofedigaeth i James Hughes.

Nid yn yr Hen Derfyn y cedwid yr ysgol, ond yma neu acw ar ei thro, ym Mryn yr Eryr, Pant-y-ffynnon, Gyrn, Tyddyn hen a lleoedd eraill. Tŷ tô gwellt oedd y Gyrn â'r defni yn dod trwodd. Yn y flwyddyn 1826, ynte, yr adeiladwyd y capel cyntaf, yn y man y saif yr un presennol, a rhyw hanner milltir o ffordd o'r Hen Derfyn, ac o gymaint a hynny yn nes i bentref Clynnog. Saif y capel yn ymyl y brif—ffordd, rhwng Clynnog a Llanaelhaiarn, wrth droed y Gyrn goch, ac heb fod nepell oddiwrth y môr. Trafferth nid bychan a gafwyd i gael lle i adeiladu. Methwyd a chael lle gerllaw yr Hen Derfyn. Eithr fe gafwyd dau gynnyg am le, y naill yn Tyddyn Hywel, plwyf Llanaelhaiarn, a'r llall yn Ty'n-y-pant ym mhlwyf Clynnog. Y lle olaf ddewiswyd, er fod plaid dros y lle cyntaf, ac ni cheid lle canolog cyfleus. Golygid yr adeiladau, sef y capel a'r tŷ capel, gan Ellis Evans Mur mawr, Evan Pyrs, Griffith Roberts Tan-y-graig, William Roberts Pant-y-ffrae a Thomas Roberts Bryn Eryr. Yn fuan wedi cychwyn ar y gwaith fe symudodd Evan Pyrs i Tyddyn Callod, Llanengan. Ar brydles y cafwyd y tir am 101 mlynedd o 1826, am y tâl o chwe swllt yn y flwyddyn. Ymhen rhyw ysbaid ar ol codi'r capel nid oedd yngweddill o'r hen flaenoriaid namyn Griffith Roberts yn unig, ac yn y flwyddyn 1827 fe godwyd James Williams Penrhiwiau i gydweithredu âg ef. Gwr a ddaeth yn dra adnabyddus oedd James Williams ar gyfrif ei dduwioldeb personol, ei ffraethineb, ei hir wasanaeth i'r achos, a'i gyfeillgarwch âg Eben Fardd. Rhywbryd yn ddiweddarach y dewiswyd Thomas Roberts Bryn Eryr, ac yn ddiwedd-