Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei sefyll yn gyffredin, gyda'i lygaid ynghau. Fe ddywedir y byddai yn cysgu rhyw gymaint; ond nid oedd neb allsai adrodd y bregeth cystal. Parod a rhwydd a swynol ei ddawn, a ffyddlon iawn i'r achos. Ei brif nodwedd ydoedd ei garedigrwydd i bregethwyr a'i haelioni tuag at yr achos. Fe roddai fenthyg ceffyl am chwech wythnos i bregethwr yn rhad, i fyned am daith i'r Deheudir. Bu cymaint a phedwar, ac hyd yn oed chwech, o geffylau pregethwyr ar eu taith yn ei stabl gyda'u gilydd. Ar ymyl y ffordd y gorweddai y domen bastai, a gwnelai yntau esgus i fyned i'w throi ar y Sadwrn, er cael cyfle i wahodd pregethwyr a elai heibio i'w dŷ. Elai a swp o wair i stabl y capel bob nos Sadwrn. Gofynnodd unwaith i'r ferch fyned ag ef, tra byddai efe ymaith yn ffair Caernarvon. Pan ddychwelodd efe o'r dref, fe gafodd ddarfod i'r ferch esgeuluso'r gorchwyl hwnnw; ac er ei fod wedi cerdded yr holl ffordd o'r dref, sef oddeutu deng milltir, aeth yn y man ei hunan gyda'r swp gwair i'r stabl. Arferai roi hanner coron ei hunan i ddynion ieuainc. o ysgol Clynnog a ddelai yma i bregethu. Rhoes ei hunan lawer gwaith arian dros ben i bregethwr, pan welai y gydnabyddiaeth yn rhy fychan. Yr ydoedd ef a John Jones Talsarn yn gryn gyfeillion, a lletyodd John Jones droion gydag ef pan ar ei daith i gyrrau Lleyn ac Eifionydd, gan roi oedfa ar ei ffordd yn Seion. Fe sonir am un oedfa neilltuol iawn a gafodd efe yma ar nos Sadwrn pan ar ei daith i Lithfaen at fore Sul, oddiar y geiriau, "Ac na fydd anghredadyn ond credadyn," pryd y pregethodd am ddwy awr, gan "fonllio gwaeddi" at y diwedd. Bu Thomas Roberts farw Tachwedd 9, 1868, yn 74 mlwydd oed. Catherine Roberts, ei briod, a fu farw Gorffennaf 30, 1888, yn 87 mlwydd oed. Ei geiriau olaf:

'Rwy'n mynd i'r glyn dan synfyfyrio;
Pwy ddaw yno gyda mi ?
Iesu'r Archoffeiriad ffyddlon
Ddaw i'm danfon dros y lli.

Gweini gyda Thomas Roberts Bryn-yr-Eryr yr oedd Evan Owen pan ddechreuodd bregethu, a merch Bryn-yr-Eryr a briododd efe. Dyma ddyfyniad o ddyddlyfr Eben Fardd a gyhoeddwyd yn Wales: "Mehefin 10, 1852, yng nghapel Seion, pryd y daeth William Roberts, Capten Owen a Mr. William Owen i ymholi ynghylch achos Evan Owen yn ei berthynas â'r eglwys. Mwyafrif pendant o'i blaid i ddechre pregethu. W. Roberts mewn ymgynghoriad â'r blaenoriaid eraill, yn mynegi fod E. Owen yn awr yn cael ei