Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddodi dan Reol iv. o'r ffurf apwyntiedig i rai yn dechre pregethu." Yr oedd gradd o wrthwynebiad iddo ar y pryd, fel y bu yn fwy pendant ar ol hyn, wedi symud ohono i Lanllyfni. A hynny er yr addefid ef yn wr duwiol yn gyffredinol. Ei destyn cyntaf, "Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi drwy aberth." Ar brynhawn Sadwrn elai at y cerryg duon ar lan y môr i ymarfer â phregethu. (Gweler Lanllyfni a Thalysarn).

Yn 1868 y galwyd Evan Evans a'i frawd Owen Evans yn flaenoriaid. Evan Evans yn gwir ofalu am yr achos. Bu'n arwain y canu am flynyddoedd. Yn y Mur mawr, cartref Owen Evans, y mae'r pregethwyr yn lletya er amser ei rieni.

Yn 1877 y dewiswyd Griffith Williams Ystumllech a Robert. Roberts Tanygraig. Symudodd Robert Roberts i Gosen. Galwyd Isaac Williams yn flaenor yn 1899.

Yma y dechreuodd J. Owen Williams bregethu yn 1889. Derbyniodd alwad i Rosgadfan. (Gweler Rhosgadfan). Yn 1898 y dechreuodd David Perry Jones bregethu.

Adeiladwyd y capel presennol a'r tŷ yn 1875. Yr holl draul yn tynnu at £700. Hyn yn cynnwys gwerth £60 o waith cludo, a wnawd yn rhad gan yr ardalwyr. Talwyd yr holl ddyled o fewn saith mlynedd o agoriad y capel.

Dyma adroddiad yr ymwelwyr â'r ysgol yn 1885: "Aethpwyd drwy y rhan ddechreuol yn yr amser priodol; ond dylid annog yn garedig ar i bawb ymdrechu dod i'r ysgol at amser dechre. Y plant bychain yn cael eu haddysgu yn ol yr hen drefn. Byddai yn welliant mawr dwyn y gwers-lenni i arfer yn ddioedi. Y mae yn yr ysgol amryw o athrawesau o'r dosbarth cyntaf gyda'r plant a'r dosbarth canol. Nid ydyw'r ysgol wedi dwyn y wers-daflen i arfer. Awgrymwn fod y canu ar ddiwedd y wers ddarllen yn lle ar ganol yr ysgol. Adroddir y deg gorchymyn bob Sul. Gwneir gwaith mawr, yn enwedig gyda'r ieuenctid. W. Griffith Penygroes, E. Williams Llanllyfni, John Roberts Llanllyfni."

Fe gafwyd cymorth i gadw seiat, a gwnawd gwaith bugeiliol ychwanegol gan weinidogion o Glynnog, megys y Parchn. J. Williams, W. M. Griffiths, M.A., ac yn bresenol, Howell Roberts.

Rhif yr eglwys yn 1900, 85.