Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n ddiau fod cyfrifon manwl ynglyn â'r adeiladu wedi eu cadw, ond nid ydynt gerbron. Rhif yr eglwys ar ei chychwyniad oedd 43. Yr oedd 32 yn aelodau yn y Capel Uchaf, 10 yn Seion, a daeth un o le arall.

Ionawr, 1845, trefnwyd capel y pentref yn daith gyda Seion a'r Capel Uchaf.

Soniwyd am Eben Fardd fel arolygwr yr ysgol yn Eglwys y Bedd. Ac efe a barhaodd yn y swydd honno yn y capel yr un fath. Yn niwedd yr ysgol, fe fyddai yn rhaid i bob athraw yn ei gylch, cymhwyster neu beidio, holi'r plant. Bu rhyw ofyniadau ar gân mewn arfer yn yr ysgol er yn fore, yr athraw yn gofyn a'r plant yn ateb: Dyma hwy, mor bell ag y gallai Mr. William Jones, mab Mr. Richard Jones, eu dwyn i'w gof:

Beth yw dyn?
Rhyw bryf meddylgar a wnaeth Duw i draethu ei glod.
Beth yw enaid?
Gem ysbrydol goleu, pwyll ac urdd y dyn.
Beth yw Duw?
Y mawr a'r hawddgar, lluniwr pawb, anfeidrol Fod.
Beth yw nefoedd ?
Haf hyfrydaf na ddaw gauaf ar ei ol.
Beth yw angeu?
Nos anifyr ddaw ar draws gauaf-ddydd byrr.
Beth yw uffern ?
Pwll erchyllaf, diwedd taith pechadur ffôl.

Ar ol rhyw adroddiad o hyn, dyma James Williams yn torri allan, gan gyfarch yr arolygwr, "Mae hi wedi stopio yn rhyw le rhyfedd iawn, Ebenezer! 'Does dim modd gochel mynd yno?" "Mi edrychaf i i'r peth," ebe'r arolygwr, "i weld beth fedra'i wneud." Erbyn y tro nesaf yr oedd yna fymryn o ychwanegiad at yr holi a'r ateb:

A oes ffordd i ochel uffern?
Oes, drwy gredu yn Iesu Grist.
F'enaid cred, cadwedig fyddi,
Ti gei ochel uffern drist.