Rhoddid deng munyd yn y diwedd i un o'r athrawon ddweyd rhywbeth am ryw ddrwg yn codi ei ben yn yr ardal ag y dylid ei warafun. Dywedai James Williams yn o fynych yn erbyn balchder, wrth yr hyn y deallid rhyw goeg-wisgiad neu agweddiad. Ar ryw Sul neilltuol pwy ddaeth i mewn i'r ysgol gyda blodyn bob un yn ei het ond dwy ferch James Williams. Yntau yn codi i fyny, yn yr amser arferol at y gorchwyl crybwylledig, ac yn torri i grio, fod balchder wedi dod i'w dŷ ef, ac nad allai o ddim wrtho. Diau ddarfod i falchder ennill rhwysg ychwanegol yn yr ardal o hynny allan!
Casgl mis Rhagfyr, 1844, 14s. 0½c.; Ionawr, 1845, 14s. 8½c.; Chwefror eto, 13s. 1½c. Y taliad cyntaf yw, Medi 22, 1844, J. Williams Frongoch, oedfa, 1s. 6c.; a'r ail, Hydref 5 eto, Morris Jones Jersualem, 2s. Tachwedd 9, Thomas Pritchard, seiat, 1s. Tachwedd 27, John Jones Talsarn, oedfa, 2s. 6c. Mehefin 26, 1845, William Roberts Amlwch, 5s.; Henry Rees, 5s.; Am gario Mr. Rees, 2s. Mai 24 o'r un flwyddyn ceir David Jones, seiat, 1s. ; Mai 25, David Jones, oedfa, 2s. Mae Thomas Hughes Machynlleth i lawr yr un flwyddyn am 2s., ac Owen Thomas Pwllheli am 3s. Ar daith, mae'n ddiau, yr oedd y cyntaf; a'r ail yn dod ar gyfer y Sul.
Ond dyma nodiad ar y materion hyn gan Eben Fardd ei hun, yn ei ddull manwl ef: "Hydref 1, 1852. Cynaliwyd Cyfarfod Diaconiaid y Daith Sabothol yn y Capel Uchaf, i'r diben o edrych i mewn i dâl Sabothol y pregethwyr yn y tri chapel, a phenderfynnu ar unrhyw welliant os bernid fod achos am hynny. Cafwyd fod y taliadau yn amrywio yn bur unffurf yn y tri chapel, sef yn debyg ar y cyfan i'r hyn a ganlyn yn Sabothol: Y gradd-daliad isaf, C.U., 2s. 6c., C.P., 2s., C.S., 1s. 6c., 6s. y Sul, neu £15 12s. yn y flwyddyn. Y gradd-dâl canol, C.U., 3s., C.P., 2s. 6c., C.S., 2s. = 7s. 6c. y Sul, neu £19 10s. y flwyddyn. Y taliad hwn yw y mwyaf cyffredin. Y gradd-daliad mwyaf, C.U., 4s., C.P., 4s., C.S., 3s. 6c., =11s. 6c. y Sul, neu £29 18s. y flwyddyn. Traul tŷ y Capel Uchaf tuag 11s. y mis, neu 12s. at eu gilydd. Traul tŷ C.S. tua 6s. y mis at eu gilydd. Dim traul tŷ yn C.P. [am fod rhyw rai yno yn cadw'r pregethwr eu hunain]. Tâl pregethwyr teithiol yn amrywio yn debyg yn y tri lle, sef 1s. 6c., 2s. C.P. sydd yn talu uchaf yn y dosbarth yma, weithiau 2s. 6c., yn aml 2s. Anogwyd diaconiaid y C.U. yn fawr i ddangos eu cyfrifon i'r holl frodyr yn y