Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymdeithas er boddlonrwydd i bawb, a rhwyddhau amgylchiadau yr achos yn y capel dywededig. Casgl mis C.U., rhwng ardrethion y tai, &c., £1 6s. at eu gilydd; eto C.P., drwy gyfroddion yr aelodau yn unig, tua 17s.; eto C.S. eto, a pheth arian seti, 18s."

Ebenezer Thomas a James Williams oedd y ddau flaenor a ddaeth o Seion ar gychwyniad yr achos. Ychwanegwyd Richard Jones atynt drwy ddewisiad yr eglwys ym mis Gorffennaf, 1847.

Dyma ddau nodiad gan Eben Fardd am ymweliadau eglwysig, pa beth bynnag yn neilltuol yw ystyr yr olaf o'r ddau: "1850, Mehefin 19, ymwelwyd â'r eglwys gan y Parch. J. Jones Talsarn, Capten L. Owen, Mr. William Owen Penygroes, i chwilio cyfrifon, ac i gyfarwyddo'r eglwys yn ei hachosion ysbrydol ac amgylchiadol. 1853, Ebrill 6, ymwelwyd â'r eglwys gan y Parch. J. Jones Talsarn, a chafwyd ei llais dros geisio gweinidog, unwaith yn y mis o leiaf, i'r cyfarfod eglwysig. Danghoswyd y cyfrifon iddo. Ceryddai yn llym am fod yn hannerog gyda'r sect, a chwennych egwyddorion dieithr a thwyllodrus." A yw y frawddeg olaf hon yn cyfeirio mewn rhan at arfer Eben Fardd, ac eraill efallai, y pryd hwnnw, of fyned i wasanaeth yr eglwys ar fore Sul?

Dyma nodiad gan ysgrifennydd yr eglwys, sef Eben Fardd, ar gyfer 1853: "Yr wyth aelodau newyddion a dderbyniwyd ydynt fechgyn a genethod a ddaethant i'r eglwys ohonynt eu hunain onid dau, ac onid un wraig yr hon yn fuan a ddiarddelwyd."

Nodiad yr ysgrifennydd am 1854: "Un o nodweddion mwyaf canmoladwy yr eglwys yw ei ffyddlondeb gyda'r casgl at y weinidogaeth. Mae ei chyfraniadau ariannol at bob achos crefyddol ac elusennol arall yn weddus a chymwys o ran swm yn gyffredin. Ei phrif lafur at oleuo y gymdogaeth, a chynyddu moesau da a gwybodaeth, sydd wedi bod yn y blynyddoedd diweddaraf mewn cynnal i fyny Gyfarfodydd Addysg mewn cysylltiad â'r ysgol Sabothol, drwy ba rai y cefnogir cerddoriaeth grefyddol, darllenyddiaeth cywir, ysgrifeniaeth a chyfansoddiad, ynghyda rhinwedd a gwybodaeth yn gyffredinol. Yn gyfochrol â hyn, ac at ddibenion diwylliaeth meddwl, a dyrchafiad character, amcanwyd gan nifer perthynnol i'r eglwys, yr ysgol, a'r cyfarfod addysg, sefydlu ystafell newyddiadurol (newsroom) yn y Pentref, yr hyn a ymddengys eto yn llwyddiannus a buddiol." Ac yna ceir sylw diweddarach: Diffoddodd yr anturiaeth olaf hon yn yr haf, 1855, wedi parhau