Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am flwyddyn a hanner." Sefydlwyd y newyddfa yn niwedd 1853. Darfu i'r aelodau anrhegu y capel â chloc gwerth £3 12s. 6c. Mae rhestr y tanysgrifwyr gan yr ysgrifennydd, yn cynnwys pob enw, gyda rhoddion yn amrywio o 5s. i 2c. Ar ddiwedd y ddalen, ceir ganddo'r geiriau, "God bless the contributors."

Dyma gofnod yn dwyn perthynas â'r ddyled: "Cafwyd gan y Parch. William Rees Liverpool ddyfod yma i ddarlithio, Mawrth 28, 1855, i lenwi i fyny y rhes o ddarlithiau misol a gytunwyd arnynt y flwyddyn hon. Rhoddwyd tocynnau allan, 500 am 6c, yr un, a 100 am 3c. yr un, a thalwyd o gynnyrch y tocynnau £12 yn glir at ddileu dyled y capel. Gorffennwyd y swm o £30 gydag arian y seti, a chasgl ar y dydd diolchgarwch am y cynhaeaf yn Hydref diweddaf, nes toddi y ddyled i £30, yr hyn yw'r swm sy'n aros ar y Capel yn bresennol (Mai, 1856)." Eto, cofnod arall : "1860, Mawrth 10, Gorffennwyd talu dyled y capel yn gyflawn, 16 mlynedd o'r amser y dechreuwyd ei adeiladu. Mawrth 11. Casglwyd yn yr ysgol Sabothol £1 4s. 1c. at gael Beibl mawr pedwarplyg a llyfr hymnau ar y pulpud."

Dyma gofnod yr ysgrifennydd o gyfarfod pregethu : "Awst 17, 1859: Cynaliwyd cyfarfod pregethu cryf a lliosog yng nghapel Pentref Clynnog. Ni chynaliwyd cyfarfod pregethu gan y Methodistiaid Calfinaidd ym mhentref Clynnog o'r blaen. . . .Y gweinidogion oedd yn myned drwy waith cyfarfod y flwyddyn hon oeddynt y Parchn. Edward Morgan Dyffryn, David Charles Môn a Robert Hughes Llanaelhaiarn. Pregethu rhagorol; gwrandawiad bywiog a dyfal; caredigrwydd a ffyddlondeb mawr. Cynorthwyid y Pentref gyda chyfraniadau gan eglwysi Brynaerau, Capel Uchaf a Seion. Cadwyd seiat gyffredinol i'r holl eglwysi am 8 o'r gloch."

Nid oedd y diwygiad wedi ei deimlo eto yn yr ardal yn amser y cyfarfod pregethu. Nos Iau, Tachwedd 10, y cyrhaeddodd Dafydd Morgan y Pentref. "Wedi pregeth finiog galwyd seiat. Yr oedd ymhlith y dychweledigion wr ieuanc o ymddanghosiad hardd, ac ar ei ben gnwd o wallt euraidd modrwyog. A yw'ch tad a'ch mam yn fyw?' gofynnai Dafydd Morgan. 'Nac ydynt.' 'A fuont hwy farw yn grefyddol ?' 'Do.' 'A oes i chwi frodyr a chwiorydd?' 'Oes, chwech.' 'A ydynt hwy yn grefyddol?' Ydynt i gyd.' Dyrchafodd y diwygiwr ei lais mewn bloedd