Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wefreiddiol, Dyma'r olaf i'r arch, 'doed y diluw pan y delo.' Gan dynnu ei fysedd drwy fodrwyau'r gwallt, ychwanegodd, 'Fe fyddai'n biti i'r diafol gael hwn. Mae e am yr ieuanc a'r prydferth bob amser. 'Rwyt 'ithau yn dlws—'rwyti yn rhy hardd i uffern. dy gael di. Mynn fod yn dlws i Dduw, machgen i, o hyn i'r diwedd.' Llamodd y llanc ar ei draed, a thaflodd ei freichiau am wddf y diwygiwr, a chusanodd ef. Gyrrodd yr olygfa hon lewyg o orfoledd dros y seiat." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 479.)

Gwelwyd mai rhif yr eglwys ar ei chorfforiad cyntaf yn 1844. oedd 43. Y rhif yn 1858, y flwyddyn o flaen y diwygiad, 68. Y rhif yn 1860, ar ddiwedd y diwygiad, 105. Y rhif yn 1862, tymor y gwyntyllio, 79. Y nifer a ddaeth i'r eglwys o'r newydd yn ystod 1859 oedd 24, chwech o honynt o ddosbarth y plant, neu heb fod wedi cyrraedd oed arferol y rhai a dderbynnid i gyflawn aelodaeth. Anrhydedd ar eglwys Ebenezer ydyw ddarfod i Thomas Jerman Jones ddechre pregethu yma, pan yn yr ysgol, yn y flwyddyn 1859.

Yn 1861 yr adeiladwyd y tŷ capel.

Ar lyfr yr aelodau, y mae'r ysgrifennydd wedi dodi yma ac acw ambell sylw byrr, a chan mai Eben Fardd oedd yr ysgrifennydd hwnnw, rhaid gweled pa beth a ddywed. Anfynych y ceir dim neilltuol; ond erbyn dodi'r cyfryw bethau wrth eu gilydd, fe ä heibio drwy ddychymyg dyn ryw ledrith o ffurfiau anelwig, cyfnewidiol, rhy ansicr i'w cornelu ar ddalennau hanes, ond yn awgrymu nid ychydig pan arosir yn dawel uwch eu pen. Nid yw'r sylw cyntaf yn dod dan 1848, a dechreuir gyda hwnnw: "Diarddelwyd ar awdurdod 2. Cor. vi. 14, a Rhuf. vii. 3.—Mary Thomas, marw Mawrth 1, 1850, yn 52 oed. Ei geiriau olaf, "A dyna oedd ei amcan ef, fy nwyn o'r byd i deyrnas nef."—Hugh Owen Ty'nycoed, i'r ysgol; symudodd i Awstralia.—Margaret Roberts Twnti'r- afon a fu farw Ionawr 4, 1853, ymhen ychydig funydau ar ol galw ei henw yn y llyfr hwn, noson y cyfarfod eglwysig cyntaf yn y flwyddyn.—Diarddelwyd am buteindra: bu farw—John Roberts: cafodd ei ladd yn y chwarel yn Nant Nantlle (1854).—Elizabeth Thomas: ymadawodd i'r workhouse ym Mai (1854).—Gwaharddwyd iddi fod mewn cymundeb.—Catherine Thomas: bu farw yn yr Arglwydd fel y cryf hyderaf, Mai 28, 1855.—Gwaharddwyd iddi fod mewn cymundeb.—Adferwyd wedi ei diarddel.—I'r eglwys