Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Seion yn lled fuan, os nad yn fuan iawn, ar ol ei dderbyn fel aelod. Rhoddwyd ynglyn â hanes Seion, hanes ei gymhelliad yntau i ddod yn aelod, yn ol adroddiad Robert Hughes Uwchlaw'r ffynnon. Y mae hanes arall, cwbl gyson â hwnnw. Yn ol Mr. Howell Roberts, yn y Geninen am 1902 (t. 61-62), yr ydoedd mewn cryn bryder ynghylch ei rwymedigaeth i grefydd yn y flwyddyn 1839. Fe deimlai ryw gymhelliad at Eglwys Loegr, a rhyw ymlyniad wrth y Methodistiaid, ag y magwyd ef gyda hwy. Meddyliodd unwaith am lunio ffurf o grefydd iddo'i hun. Yn y cyfwng hwn, ar ei waith yn cerdded allan o Eglwys y Bedd, disgynnodd y geiriau hynny ar ei ysbryd, "Ni watworir Duw; pa beth bynnag a hauo dyn hynny hefyd a fed efe." Yr ystyriaethau a godasant yn ei feddwl a'i harweiniasent ef yn raddol i ymgyflwyno i'r eglwys yn Seion. Gwnawd cais teg yn y flwyddyn 1849 gan y Canon Robert Williams i'w ennill ef drosodd i'r eglwys, drwy gynnyg y lle fel meistr yn yr ysgol eglwysig newydd iddo, ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr eglwys bob tri mis. Soniodd y Canon am y peth wrth wraig yn dwyn gradd o gydymdeimlad â'r eglwys, er yn aelod yn Ebenezer, cyn sôn ohono wrth Eben Fardd ei hun. Oddiwrth y wraig hon y clywodd efe am y peth gyntaf, a'i ateb cwrtais ydoedd, "A oes ganddo syniad mor wael a hyna am danaf, a meddwl yr awn i gofio angeu fy Ngwaredwr er mwyn bywioliaeth?" Ar ol bod mewn ymohebiaeth âg Eben Fardd, yr oedd y Canon yn adrodd am ei fethiant yn ei amcan gyda'r ysgol wrth y bwrdd yn nhŷ Lord Niwbro ac yn rhedeg ar Eben, a Lady Niwbro yn porthi. Yn y man, ebe'r Lord, gan gyfarch y Lady yn ymddanghosiadol, "Peidiwch rhedeg i lawr ddynion gwell na chwi'ch hun." Yr hen fwtler oedd yn gwrando, ac a adroddodd y peth wrth y diweddar Jones Penbwth, Llandwrog, yn lle ei gadw iddo'i hun, fel y dylasai. Diau ei fod yn dra eangfrydig yn ei gydymdeimlad; ac ni enwogodd mono'i hun mewn dim gradd mewn gwasanaeth dros y cyfundeb fel y cyfryw, oddigerth fel meistr ar yr ysgol y penodwyd ef arni. Mae'n ddiameu, yr un pryd, fod ei ymlyniad wrth yr eglwys yr oedd yn flaenor iddi yn fawr, ac yn myned yn fwy o hyd. Nid oedd unrhyw drafferth yn ormod ganddo gymeryd er ei mwyn, megys y dengys mewn rhan ei lafur-waith manwl fel ysgrifennydd. Yn araf yr ymgymerai efe â phobl, neu â sefydliadau, neu âg egwyddorion; ond wrth ymgymeryd â hwy yn araf ymlynai wrthynt yn dynn. Tueddfryd ddwys oedd yr eiddo ef. Edrycher ar y llygaid yn y llun ohono o flaen ei weithiau: adlewyrch ser y ffurfafen sydd yn