eu dyfnderoedd llonydd. Enghraifft go lwyr o'r ardymheredd felancolaidd, yn ol dosbarthiad yr hen arfferyllwyr; ac yn eu hieithwedd neilltuol hwy, gwr o naws oeraidd, sur, fel yr afal anaddfed, ac yn cynnwys ynddo'i hun elfennau i'w troi dan ddylanwadau cydnaws yn feluster odiaethol, ac ofnusrwydd i'w droi yn ymdeimlad âg eangder anherfynnol. Disgynnodd ef ei hun, o ran hynny, yn ei ddisgrifiad ohono'i hun, ar eiriau yr arfferyllydd:
Dyn sur, heb ddim dawn siarad,—wyf fi'n siwr,—
Ofnus iawn fy nheimlad;
Mewn cyfeillach swbach sad,
A'i duedd at wrandawiad.
Dyma yn union y gwr, ond rhoi iddo ddigon o amser a llonyddwch, i ymglymu o ran holl wreiddiau ei natur wrth bobl pentref bychan, gwledig, fel Clynnog fawr yn Arfon, ond i'r bobl hynny roi eu serch a'u hedmygedd arno yntau, fel y gofynnai natur eang fel yr eiddo ef. A hynny a wnaeth y bobl, er mawr elw iddynt eu hunain, canys fe erys ei lun ef arnynt fel llun y ddeilen yn y gloyn. Perchid ef gan ei ysgolheigion ac anwylid ef ganddynt hefyd. Gwyddid o'r goreu pan fyddai gwewyr cyfansoddi arno. Elai yn anymwybodol o bresenoldeb yr ysgolheigion, gan gerdded ol a blaen ar lawr yr ystafell fel mewn poen dirdynnol. Wrth ei weled yn yr agwedd honno, elai'r ysgolheigion, ofnus bryd arall, yn hyf a thyrfus, a chyda rhyw drwst mwy na'i gilydd wele yntau yn dadebru, a churo yn enbyd ar brydiau felly. Deuai i mewn i'w dŷ o'r ysgol, ac heibio'r tair geneth a giniawent yno oherwydd pellter eu cartrefi, a heibio pawb arall, ac ymaith i'w ystafell heb yngan gair, ac yno y byddai bellach heb ei fwyd, ac heb neb yn beiddio aflonyddu. Y gwr a ymgollai fel hyn yn y meddyliau eang a lanwent ei fryd oedd fanylaidd i'r eithaf gyda manylion. Yng ngwewyr esgoreddfa creadigaethau mawrion ei Adgyfodiad, fe ddeuai i'r ysgol mewn clocs wedi eu glanhau yn lân, ac heb eu baeddu ar y ffordd yno, gyda'r hosanau byrion, llwydion, cyfeuon, a'i wisgiad gwledig bob amser yn eithaf trefnus. Yn y gauaf yn unig y gwisgai efe'r clocs, er cynhesrwydd iddo, wr o naws oeraidd. Ac os oedd efe yn o wyllt weithiau, pan darfid ef yng nghynddaredd cyffroad ei grebwyll, pa beth a'i llywodraethai pan na fynnai gyffwrdd fyth yn yr hogyn cringoch acw?—y mwyaf direidus yn yr holl ysgol, unig blentyn Dafydd Owen ac Ann Roberts, perchenogion gwledig athrylith a saint. Ië, dehongler hynny! A medrai fod yn eithaf diddan. Yr oedd rhai o'r ysgolorion wedi tyfu i'w maint, ac arosai