Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyda'r drem olaf honno, pan safodd pob gorchwyl daearol, clywodd Eben Fardd lais aderyn Llwyn y Nef. Eithr peidio'r daearol er mwyn dechreu'r nefol. "Yn y nefoedd y canaf i'n iawn," ebe fe wrth ei ferch nid nepell oddiwrth y diwedd.

Dodir yma gyfieithiad rhydd o rai pethau perthynasol yn nyddlyfr Saesneg Eben Fardd, a gyhoeddwyd yn Wales, 1894-6. "1827. Dechre ysgol Medi 10, 1837. 1837, Mehefin 30. Fy ngwraig yn y seiat yn y Gyrn Goch. Wedi bod am dair wythnos mewn mawr drafferth a blinder am ei chyflwr. Hyderaf mai llaw Duw ydyw hyn; ac, os felly, fe gynydda er iachawdwriaeth. Hydref, 12. Gorymdaith ddirwestol drwy Glynnog. Dwy faner fawr â'r gair Sobrwydd yn weuedig i mewn ynddynt, a dwy faner fach gyda'r gair Dirwest. Lliwiau gwyn, a bwyell ryfel ar ben baniar Capel Uchaf. Canwyd fy emyn ddirwestol i yn effeithiol wrth fyned drwy'r pentref. Trowyd i Eglwys y Bedd, lle traddodwyd anerchiadau pwrpasol. Tachwedd 8. Cyfarfod dirwestol yn Eglwys y Bedd, lle traddododd Mr. Griffith Hughes Edeyrn ddarlith ragorol a gwir alluog ar ddirwest yn ei berthynas â masnach. 1838, Mawrth 17. Y Parch. John Phillips Treffynnon yn y Capel Uchaf. Malachi iii., 16. . . . . Yr wyf yn ystyried y gwr hwn yn bregethwr da iawn . . . . Llais gwych, ystum weddaidd, eglurder a threfn yn ei araeth, a mawrygiad gostyngedig ac angerddol o'i Feistr dwyfol, a wnelai ei bregeth yn llawn tân sanctaidd a gwres nefol. 1845, Mehefin 26. Parch. Henry Rees a William Roberts Amlwch yn pregethu am 11 y bore yn y Pentref. Talwyd 5s. i bob un. Rhagfyr 27. Parch. W. Prydderch yn pregethu. Talwyd 2s.; ei gyfaill, 1s. 1847, Hydref 5. Cyfarfod Misol y Capel Uchaf. Mri. Edwards Bala a Rees Nerpwl yn pregethu, yr olaf yn dra disglair. Rhagfyr 12, y Sul. Dr. Pughe yn y cyfarfod gweddi. Rhagfyr 13. Eilfed arbymtheg ben blwydd Ellen. I Dduw y byddo'r glod a'r gogoniant am ei ryfedd drugareddau dros ystod y ddwy flwydd arbymtheg hyn. Mabwysiader hi ganddo ef, a bydded eiddo iddo dros byth. 1852, Mawrth 6. Seiat. Peth adfywiad i'm henaid. Ebrill 18. John Owen Penygroes wedi'n siomi am y bregeth. Anogwyd fi i roi gair o gyfarchiad. Eglurais ychydig hwyr a bore ar y trefniant aberthol a'r sylwedd cyfatebol dan yr Efengyl. 1854, Ionawr 1. Achos Crist ymhlith y Methodistiaid yn y Pentref yn isel iawn ar hyn o bryd. Dim ond o 50 i 60 yn yr ysgol Sul, &c. Mehefin 22, John Owen Henbant