yn talu £1 i mi am ysgol plant tlodion o'r Capel Uchaf. 1856, Awst 6, nis gallaf edrych ar fy neilltuedd presennol oddiwrth lafur cyhoeddus a llenyddol ond fel nesad at yr hedd a'r mwynhad a'r gorffwystra yn Nuw yr hyderaf gyrraedd iddo ar ben fy nhaith. Y bywyd bychan a fu'n ymagor i'w flodau a'i ffrwyth llenyddol o 1824 ymlaen, sy'n ymddangos yn awr yn ymgau ac yn disgyn i lawr yn addfed a llawn i'r ddaear o'r neilltuaeth diniwed a'r syml fwynhad y tarddodd ohono, i flaguro yn nesaf oll mewn anfarwol fwynhad a llawenydd a digrifwch, ac mewn nefol gymdeithas a nefol gwmnïaeth. Medi 30. Diolchgarwch am y cynhaeaf. Wrth gymhelliad mewnol cryf rhoddais air o gyfarchiad i'r bobl ar yr achlysur, yr hyn a dderbyniwyd yn dda ganddynt, er clod a gogoniant i Dduw. 1857, Ionawr 18. Rhyw ddylanwad dwyfol neilltuol i'w deimlo yng nghyfarfod gweddi yr hwyr. Gogoniant i Dduw. 1859, Hydref 18. Y brodyr yn hiraethu am y diwygiad. Troi y seiat yn gyfarfod gweddi am ddiwygiad. Diffyg amynedd ac ysbryd priodol. Rhagfyr 26. Pregethu yn y Capel Uchaf. Yn y bregeth am ddau. Y gynulleidfa yn dra thrystiog a chyffrous. Nis gallaswn wrando er adeiladaeth."
Yr oedd Dewi Arfon (Y Parch. David Jones) yn ysgolor gydag Eben Fardd yn niwedd ei oes, a chymerodd ei le fel athraw pan waelodd efe. Daeth hefyd yn olynydd iddo yn yr ysgol, ac yn fugail i'r eglwys. Methu gan Eben Fardd yn deg a deall paham y deuai ysgolor o gyrhaeddiadau Dewi Arfon ato ef i'r ysgol, ac yr oedd braidd, yn ei ordeimladrwydd, yn amheus ohono ef. Ystyrrid yr athraw newydd yn rhagori ar yr hen o ran ei ddull effro yn yr ysgol ar bob pryd. Codwyd ysgoldy a thŷ ar ei gyfer, ond bu efe farw yn 1869, yn 36 mlwydd oed, cyn myned ohono i'r naill na'r llall. Cyfrifid ef yn feirniad cerddorol da, yn fardd da, yn arbennig fel englynwr, ac yn bregethwr coeth a sylweddol. Yr oedd yn wr ffraeth a siriol a ffyddlon i'w gyfeillion. Megys y bu efe farw cyn myned i'r ysgoldy a'r tŷ a ddarparwyd iddo, felly y bu efe farw yr un modd cyn derbyn y dysteb a fwriadwyd iddo, er fod y symudiad ynglyn â hi yn un llwyddiannus, ac felly y bu efe farw yn nheimlad y wlad cyn gwneud ohono ei farc priodol ei hun. Er hynny, fe gafwyd rhyw awgrym ddarfod iddo farw yn union yn yr adeg briodol. Rhwng pump a chwech ar y gloch fore y Nadolig, fe ofynnodd i'w chwaer estyn iddo awrlais bychan gydag alarwm ynddo. Yna gosododd fys yr alarwm i daro am naw, ac