Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar naw ar y gloch i'r mymryn, yn swn yr alarwm, yr ehedodd ei ysbryd ymaith.

Medi 30, 1867, y dechreuodd J. J. Roberts (Iolo Caernarvon) bregethu yma.

Yr oedd olynwyr Dewi Arfon fel athrawon yr ysgol, fel yntau, mewn cysylltiad bugeiliol â'r eglwys hefyd. Yn ystod gwaeledd Dewi, a rhyw gymaint ar ol hynny, sef oddeutu chwe mis o gwbl, bu'r Parch. R. Thomas (Llanerchymedd) yn athraw. Bu'r Parch. John Williams (Caergybi) yma hyd 1876; y Parch. John Evans, B.A. (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W. M. Griffith, M.A. (Dyffryn) hyd 1896; ac yna y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A.

John Jones Ty'nycoed oedd flaenor yr eglwys a fu farw yn 1869. Gofalus a gwyliadwrus, ac o gysondeb a chywirdeb amlwg. Golwg sarrug, ond i ddibynnu arno i'r pen. Bu efe a'i briod yn gyfnerthiad i'r achos am flynyddoedd, ac yn groesawgar o weinidogion yr efengyl.

Yn 1873 daeth Mr. Howell Roberts o eglwys Llanllyfni, lle'r oedd yn flaenor. Dechreuodd bregethu yn 1875.

Rhagfyr 21, 1882, cynaliwyd gwyl yn gof am ddi-ddyledu'r adeiladau, sef yr ysgol a'r tŷ, a threuliau eraill. Dygwyd traul yr adeiladau hyn gan eglwys Clynnog ei hunan. Bernid fod yr holl adeiladau o'r dechre yn werth agos i fil o bunnau. Ar gais James Williams, oddiar ei wely angeu, y gwnawd yr ymdrech olaf i gyd er dileu'r ddyled.

Rhagfyr 24, 1882, y bu farw James Williams, yn 83 mlwydd oed, ar ryw olwg prif flaenor y lle o'r dechre. Byrr, cydnerth, gwridog, gwledig oedd James Williams, a ffraeth hefyd a phert a chraff a duwiol. Byw ei feddwl a byw ei deimlad. Daeth yn deg o dan ddylanwad Eben Fardd, ac yr oedd ganddo barch diderfyn iddo. Dan ei ddylanwad ef daeth yn bleidiwr aiddgar i'r ysgol, a thebyg mai dylanwad James Williams oedd yr achos. na symudasid mo'r ysgol o Glynnog. Bu'r cyffyrddiad â'r bardd yn symbyliad i'w feddwl, a pharhaodd yn fyw i symudiadau yr oes. Darllenai sylwadau Peter Williams ynglyn â'r bennod ar ddyledswydd deuluaidd. Yr oedd yn siaradwr rhwydd, a'i Gymraeg yn rhagorol. Yr oedd yn gampus yng nghyferbyniad ei ddawn a'i nodwedd i'r bardd. Nid oedd y cyferbyniad yn ormod gan ei fod