yn meddwl yn isel ohono'i hun. Pan bwysai rhywbeth oedd ganddo i'w ddweyd yn o fawr ar ei feddwl, elai i grio, ac ar brydiau felly ysgubai bopeth o'i flaen. A'r un meddwl bywus a barai y byddai yn brofedigaeth iddo ddweyd pethau rhy ddigrifol wrth bobl weithiau. Ar ryw achlysur pan oedd sôn am gyfranu yn y cwestiwn, dyma Hugh Jones Bron-yr-Erw yn dechre tuchan, yn ol arfer pobl y Capel Uchaf y pryd hwnnw, gan gwyno'n enbyd am amgylchiadau cyfyng, nid am ei fod mor anfoddlon i roi, ond am mai dyna ffordd yr hen Fethodistiaid o'r iawn ryw. "Beth ydi'r tuchan yna sydd gen ti, byth a hefyd," ebe Siams, "'rwyti'n gruddfan fel pe tae ti'n dod â llo!" Yr oedd ganddo ddawn ddigymar i holi profiad, ond fe'i clywyd yn dweyd ei fod yn credu fod gan y diafol fwy i wneud â gwaith pobl yn dweyd profiad na dim. "Os bydd rhywbeth ar eu meddwl," ebai, "fe'i dywedan o; os na fydd, fe demtia'r diafol nhw i ddweyd celwydd." Gweddi oedd pwnc seiat y Cyfarfod Misol yn Ebenezer un tro, a Robert Ellis yn llywydd. "Rhaid i ni gael gair bach gennychi, James Williams." "'Does gen i ddim." Cododd yn y man. "'Roeddwn i'n meddwl am Beti acw. Mae acw lyn wrth y tŷ acw a chwiaid ynddo. Rhyw ddiwrnod pan oeddwn wedi dod i mewn i'r tŷ, a'r plant yn chware yn ymyl y llyn, mi glywn ysgrech. 'Dyna blentyn wedi syrthio i'r llyn l' ebwn i. 'Nag ydi,' meddai Beti. Dyna sgrech wedyn. Mae'r plentyn yn y llyn,' meddwn i. 'Nag ydi," meddai Beti yn hamddenol. Ond dyna sgrech arall. A'r tro yma dyna Beti yn rhedeg allan o'r tŷ: mi adnabyddodd y llef. A dyna ydi gweddi: llef y plentyn. Mi adnabyddodd y fam lef y plentyn. Mae llawer heb wahaniaethu rhwng gwir weddi a gau weddi; ond y mae Duw yn adnabod llef y plentyn." A'r gweddill yn y cyfeiriad yna. Wedi iddo orffen, ebe'r cadeirydd, "'Doedd lwc, bobl, nad aethom ni ddim allan â James yn 'cau dweyd!" Yr ydoedd yn llawn o'r pertrwydd yma.
Swyddog a th'wysog a thad—ini oedd.—Hywel Tudur.
Richard Hughes oedd flaenor a fu farw yn ieuanc. Arweinydd y gân, ac yn gerddor da. Hyddysg yn yr ysgrythyr, a diwinydd rhagorol.
Yn 1887 dechreuodd Edwyn W. Roberts bregethu. Derbyniodd alwad i Bodfari yn 1898.