unig, bellach, oedd yn y swyddogaeth. Dwyn y gwaith ymlaen drwy gyfrwng pwyllgor. Ebrill, 1892, H. H. Parry yn ymadael i eglwys Engedi. Yn 1894, John Davies yn symud i Glwt y bont, ac yn ymaelodi yn Nisgwylfa.
Rhagfyr 9, 1891, yn 46 oed, bu farw'r gweinidog, y Parch. Hugh Jones, yn frawychus o annisgwyliadwy. Yn ystod y flwyddyn bu'r eglwys mewn helbulon blin, yn codi o anghyd— ddealltwriaeth ynglyn â phethau allanol yr achos, cydrhwng y blaenoriaid o un tu, ac yntau a mwyafrif yr eglwys o'r tu arall. Diau ddarfod i'r cyffro meddwl a brofodd brysuro ei ymadawiad. Nid hwyrach mai gwr fymryn yn anymarferol ydoedd yntau. Yr oedd, yn hytrach, olwg dyn a allasai fod yn gyfryw arno. Ynghanol twrf o bobl, tuedd i ymneilltuo oedd ynddo; a hynny hyd yn oed mewn lle fel Cyfarfod Misol. Yr oedd ei olwg yn fynych i mewn yn fwy nag allan, a cheid argraff oddiwrtho, wrth edrych arno yn unig, o ddyn yn hytrach yn dynn. A gallesid ei farnu yn ddyn braidd yn or-deimladwy. Fe fuasai hynny yn gwbl gyson a bod yn rhydd a brawdol gyda'i gyfeillion. Fe welid ynddo gyffyrddiad o'r gwr boneddig, yn yr ystyr gymdeithasol i'r dynodiad. Y meddyliwr tawel oedd y prif brydwedd, neu wr y sugnid ei fryd yn fwy gan y meddyliau a wibiai o'i fewn ei hun na'r gwrthrychau oddiallan. Llygaid gloewon, byw, gan wr thra thawel: nid llygaid yn gwibio yn aflonydd ddim, gan gael eu hudo gan y peth yma ac arall; ond llygaid â'r meddyliau mewnol yn edrych allan o honynt yn barhaus, gan loewi'r cyfrwng yr edrychent trwyddo â'u presenoldeb disgleirwych eu hunain. Croesawu cyfaill fuasai ei anianawd; ond dywedyd,—Hyd yma, wrth arall. Un rheswm am yr,—Hyd yma, fuasai, peidio âg aflonyddu dim ar rwysg a chynnwrf mewnol distaw y meddyliau a'r dychmygiadau. Ei dymer neilltuol yn cynnorthwyo yn hynny. Dyna air y Parch. Griffith Ellis am dano,—"Galluog ac oriog. Efrydydd anwastad. Fel y byddai'r awel, felly yntau." Gallasai un o'r nodwedd yma fod yn eithaf agored; ond os eisoes yn tueddu at neilltuaeth myfyriol, yna fe fuasai tuedd y dymer oriog yn hytrach i bellhau'r dieithr a'r ymwelydd achlysurol. Isel a phrudd ar brydiau, fe ddywedir, pan yn efrydydd yn y Bala. Fe'i nnid oddiwrth ei efrydiau ffurfiol yn y Bala gan lenyddiaeth Gymraeg. Tebyg fod a fynnai ei annibyniaeth meddyliol â hynny, gan ddewis barnu drosto'i hun pa beth oedd oreu