Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo, a dewis ymroi i'r hyn a fwynheid ganddo. Fe feddai ar feddwl craff, cyrhaeddbell. Fe ddengys y pregethau a gyhoeddwyd ynglyn â'i gofiant afaeliad meddwl cryf ynghyda chywreinrwydd: fe ymeifl ym mhrif bwnc y testun, gan beri i'r pynciau llai amlwg wasanaethu ar hwnnw yng nghorff cydol y drafodaeth. Fe wna hynny weithiau yn dra effeithiol. Yr oedd iddo ryw arbenigrwydd fel meddyliwr ynghanol meddylwyr eraill: rhyw gyflead deheuig ar ambell bwnc mewn pregeth, ac ar ddull cywrain, ac â rhyw bwyslais achlysurol o'i eiddo'i hun, cwbl hamddenol a thawel, ond yn tynnu sylw pawb, â rhyw feddylgarwch ynddynt, at y pwnc hwnnw. Wrth agor ystyr yr adran yn y Galatiaid, lle ceir y gair,—Onid ydych chwi yn clywed y ddeddf? Canys y mae yn ysgrifenedig fod i Abraham ddau fab, fe gyfleai efe y geiriau yn y dull yma,— "Clywch y ddeddf," â phwyslais priodol iddo'i hun ar y gair clywch, pwyslais tawel, mewnol, nes fod pawb yn gwrando, a'r geiriau eu hunain yn swnio braidd yn ddieithr. Yna aros fymryn, ac yna,—"yr oedd i Abraham ddau fab," â rhyw gymaint pwyslais mewn tôn gyffredin ar y ddau. Yr oedd y dull yma yn goglais Evan Roberts Engedi yn anarferol, a llwyddodd i gyffroi sylw cynnulleidfa fawr ym Moriah at y pwnc mewn llaw â chyn lleied o draul arno'i hun a welwyd nemor dro. Yr oedd Thomas Roberts Jerusalem yn pregethu ar ei ol, yn y dull cyffrous priodol iddo ef, ac yn hytrach yn well nag arfer; ond wedi iddo ef orffen, neilltuolrwydd hamddenol Huw Myfyr oedd wedi gadael yr argraff fwyaf pendant ar y meddwl y tro hwnnw. Fe ddewisodd enw barddonol iddo'i i:un oedd yn adlewyrch teg o'i neilltuolrwydd mwyaf arbennig. Yn naturiol, traddod wr rhwydd neu led rwydd a fuasai, eithr vr oedd ganddo yna neu acw yn y bregeth ryw ffordd o alw sylw at feddwl neilltuol, a barai ei fod am y pryd yn rhyw glonciog ei ddull, fel menn orlwythog. Yr ydoedd felly, debygid, yn amlach gartref gyda phregeth newydd. Nis gallasai ond y difeddwl, ar gyfryw achlysuron, beidio â theimlo mai rhywbeth pwysicach na'i gilydd oedd ganddo yn y fan honno. Diau ddarfod iddo wasanaethu ei oes drwy gyffroi meddylgarwch mewn lliaws, cystal a phorthi meddylgarwch mewn llawer. Ac yr oedd ei feddylgarwch ef ar ddull coethedig, ac â chyffyrddiad o arucheledd. ynddo, arucheledd mater ac arucheledd amcan. Fe gyfeiriai ei feddylgarwch i amcan teilwng, sef, yn bennaf, er goleuo'r