meddwl ar y pwnc mewn llaw. Nid wedi cael lliaws o feddyliau y byddid yn gymaint, a chael meddyliau yn gyfeiriedig at nôd arbennig fel yr arhosai'r nod yn y meddwl y cyrchid y meddyliau er ei fwyn. Fe ddeuai'r naill syniad ar ol y llall yn gymwys yn eu lle. Fe ddywedir mai syml a gonest ydoedd yn y seiat: gallai wneud yn eithaf â'r anwybodus. ond yr hyf oedd annioddefol ganddo. Ni ragorai fel ymwelydd â'i bobl: yn nhŷ myfyr y mynnodd breswylio. Fe ystyrir ei fydryddiad o rannau o'r Salmau yn gampwaith, ac mae cyffyrddiadau o ddisgrifiad manwl a byw yn ei farwnadau i'w hen athrawon, y Dr. Parry a'r Dr. Lewis Edwards (Cofiant a Phregethau, D. Williams, 1893. Cymru, ii., 129. Geninen Gwyl Dewi, 1892, t. 39.)
Ynddo ef y ceir athrylith newydd loew yn y sir,
Megis gwythen aur brofedig red ei chwrs ar draws y tir.
Os oes ambell i athrylith yn tanbeidio mwy o bell,
Nid oes un yn fwy tryloew, nid oes un a phara gwell.
Tyfiant natur yw ei bregeth, megis pren ynghanol gardd—
Gwreiddiau dyfnion—paladr union a changhennau ffrwythlon, hardd.
Plentyn natur ydyw yntau—pery'n ffyddlawn iddi o hyd—
Na llefaru'n annaturiol, gwell f'ai ganddo fod yn fud.
(R. R. MORRIS.)
Awst, 1893, y Parch. John Williams yn dod yma o'r Tabernacl, Bangor, fel bugail. Symudodd i Hyfrydle, Caergybi, ym Mehefin, 1895. Yn Nhachwedd, 1894, dewis yn flaenoriaid, —William W. Jones Pen y bwlch, David Davies Tŷ'n gadlas, John W. Jones Garreg lydan. Y Parch. J. Puleston Jones yn dod yma fel bugail, Tachwedd, 1895.
Bu farw William Davies Tan Elidir, Medi 3, 1895, yn 64 oed, wedi ei godi i bregethu yn 1861. Dyma sylw H. H. Parry arno ynglyn â'i godiad yn bregethwr: "Bu'n arweinydd y bobl ieuainc yn eu cyfarfodydd gweddïau yn ystod misoedd yr adfywiad, a phrofodd yntau ei hun fesur helaeth o ysbryd yr adfywiad hwnnw. Yr oedd yn gorwedd yn hynod o esmwyth ar feddwl yr eglwys at ei gilydd oblegid ei gymeriad a'i weithgarwch crefyddol. Holai'r ysgol, traddodai areithiai dirwestol, a theimlai'r lliaws ieuenctid awydd gweled un o blant y diwygiad yn troi'n bregethwr. Mab ydoedd ef i William ac Ann