Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES METHODISTIAETH ARFON.

LLANBERIS, LLANRUG, LLANDDEINIOLEN.

ARWEINIOL.[1]

FE orwedd plwyf Llanberis i'r dwyrain-de-dwyrain o Gaernarvon, mewn pellter o tuag wyth milltir, ac ar y ffordd i Gapel Curig. Ei fesur sydd oddeutu pum milltir wrth dair. Nid yw'r lled ar waelod y dyffryn ond tua milltir, ond ymled tuag i fyny o grib y Foel Eilio i grib yr Elidir. Fe arferir dweyd fod uchter y dyffryn ar ei waelod ar y tir tua'r un faint a phen Twtil, ger Caernarvon.

Yr oedd yr hen ffordd o Gaernarvon i Lanberis yn myned dros y Cefn Du, y saif y teligraff diwifrau arno. Fel y gwelwyd yn hanes y Waunfawr, dyma'r ffordd dra- mwywyd gan Howel Harris, er ei syndod yn wyneb rhyfeddodau natur. Nid oedd y ffordd isaf, sef yr un a arferir yn gyffredin bellach, wedi ei gwneuthur y pryd hwnnw.

Wrth fyned i Lanberis yng ngwrthwyneb i'r fel y teithiai Howel Harris, sef o'r Waunfawr yno, yr ydys yn cefnu ar y Cefn Du, ac yn teithio ar lethrau'r Foel Eilio, ac yn y man yn dod i olwg y llyn, a thref Llanberis fel yn codi o hono ar alwad hudlath swynwr, gan ddechre cripio llethrau'r Foel. Mae'r llyn wedi ei amgylchu â mynyddoedd, sef y Foel Eilio, yr Wyddfa, yr Elidir a'r lleill, ac ar ddiwrnod tawel fe welir lluniau llethrau'r Elidir a'r Foel a'r dref a'r coedydd, fel yr eir ymlaen. Wrth fod y llyn i waered mewn cryn ddyfnder o'r fan y deuir i'w olwg gyntaf, ac am beth ffordd wedi hynny, mae'r argraff ar y teimlad yn ddieithr a rhyfeddol, ac megis.

  1. Gwaen Gynfi, D. M. Jones [Dewi Peris] a John Roberts, 1869. Llan- beris, W. Williams, 1892. Llanberis, G. Tecwyn Parry, 1908. Teithiau Pennant, Warner a Bingley. Celtic Folklore, John Rhys, 1901. Llawysgrif dyrifau o gasgliad P. B. Williams. Llawysgrif carolau. Nodiad y Parch. Thomas Lloyd ar gysylltiad y Capel Coch âg addysg. Fy hanes fy hun, Evan Owen, 1886. Rural Parishes [Llanrug ac eraill], Hugh Williams. Llyfr o luniau ydyw'r olaf yn bennaf dim.