Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feddai mo William lais John, ond yr oedd rhagoriaeth yn perthyn iddo fel arweinydd, ac o ran deall mewn cerddoriaeth yr oedd ymhell ar y blaen. Fe gyfansoddodd amryw donau ac anthemau. Wedi ymfudo ohono i'r Amerig, efe oedd arweinydd cymanfaoedd canu Wisconsin. Bu chwyldroad ar y canu, ebe Owen Hughes, pan ddygwyd cyfundrefn Ieuan Gwyllt i weithrediad, ac yna Owen Hughes ei hun oedd yr arweinydd.

Rhif yr eglwys yn 1900, 229.