Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/291

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CWM Y GLO.[1]

SAIF pentref Cwm y glo ar y briffordd rhwng Caernarvon a Llanberis, tua 5 milltir o'r blaenaf a 3 o'r olaf. Nid oedd y briffordd, neu'r ffordd isaf i Lanberis, yn bod pan rowd yr enw Cwm y glo. Yr oedd yr hen ffyrdd yn ddieithriad yn myned dros y rhiwiau pan fyddent i'w cael, er bod yn amlwg o bellter ffordd, a bod yn haws i deithwyr, yn enwedig cludwyr nwyddau, gael help rhag y lladron fyddai mor luosog y pryd hwnnw. Yr oedd yr hen ffyrdd i Lanberis o gyfeiriad Caernarvon yn myned dros ysgwyddau'r Cefn du, y naill ohonynt heibio Croes y waen, gan adael y Foel Eilian ar y dde, a'r llall heibio'r fan lle mae Castell Bryn bras yn awr, gan ddod i lawr y gelltydd at lan Llyn bogelyn. Dadlwythid copr o'r gwaith ger Llanberis yng nghei Llyn bogelyn, a cherid y copr mewn cychod yma, ac yna cludid yn bynau ar gefnau asynod ar hyd yr hen ffordd i dref Caernarvon. Yr oedd clogwyn Llwyncoed yn rhedeg i'r llyn, ac yn atalfa ar fynediad pellach y cychod, a dyna p'am y rhowd yr enw cwm y clo. Eglurhad arall ar y gair ydyw, mai cloi olwynion y troliau y byddid ar y goriwaered yma. Cychwyniad yr ysgol yma oedd gwaith William Pritchard Glan llyn yn gwahodd iddi eneth ieuanc yn Llwyncoed. Cwynent hwythau am bellter y ffordd i Lanrug, gan fynegi eu parodrwydd i ddod, pe cychwynnid ysgol yng Nghwm y glo. William Pritchard, wedi cyrraedd chwarel isaf y Glyn, lle gweithiai, yn adrodd yr hanes wrth Griffith Owen a Robert Evans. "Mae gen i dŷ gwag a gaechi am bunt y flwyddyn," ebe Griffith Owen. Wedi cydymgynghori â'r brodyr yn Llanrug, penderfynu ar ysgol. Yr oedd Owen Owens y Bryn yn byw yn y tŷ hwnnw yn 1878. Dodes y tŷ ei argraff ar ddychymyg John Roberts: heibio drws y tŷ lle trigiannai Daniel Griffith yr eid yno, a thair o ffenestri bychain, henafol yr olwg arnynt, oedd iddo. Yma y dechreuwyd yr ysgol yng ngwanwyn 1822. Deugain oedd ei rhif. Pedwar o feibion o'r lle yma oedd yn aelodau yn Llanrug ar y pryd, sef Griffith Owen,

  1. Dechreuad a chynnydd eglwys Cwm y glo, John Roberts Tanrallt [tuag 1878]. Nodiadau gan Mr. Evan J. Roberts.