Evan Jones, William Pritchard, Robert Evans. Tebyg fod y pedwar yn aelodau o'r ysgol. Ceid pregeth achlysurol yn y tŷ. Tua dechre 1827, cwyno fod y tŷ yn rhy gynnwys. Yr oedd y dywededig Evan Jones yn dir-feddiannydd; a dywedodd y rhoddai efe dir i adeiladu yn rhad ac am ddim. Ofn anturio er hynny. Ym mis Medi neu Hydref, William Roberts Clynnog yn rhoi pregeth yn y tŷ, ac, wedi clywed yr hanes, yn cynghori adeiladu ar bob cyfrif. Hynny a wnawd. Dyma'r cyfrif o'r peth gan John Roberts, a dichon ei fod yn ymarferol gywir. Eithr y mae gweithred yn dangos ddarfod talu £5 am y tir. Dichon fod Evan Jones wedi trosglwyddo'r £5 yn ol i'r eglwys wrth ei dderbyn. Prynnwyd tir ychwanegol, hefyd, yn 1843, am £40. Maint yr ysgoldy, 24 troedfedd wrth 18 oddifewn. Yng ngwanwyn 1828, symud i'r ysgoldy newydd. Yn 1828 y gwnawd y ffordd fawr o Bengreuor i Benllyn. Adeiladwyd llawer o dai yma wedi hynny; agorwyd rhai tafarnau; a deuai'r mwnwyr yma o'r gwaith copr. Cynnyddodd yr ysgol, yn y man, i 100; ac wedi hynny, ym mhen amser, i 130. Rywbryd yn ystod 1832-3 rhowd darn yn yr ysgoldy, nes ei fod yn 34 troedfedd wrth 18. Dodwyd pulpud ynddo, a cheid pregeth yn lled aml, yn enwedig ar nos Sadwrn. Yn nechre 1837, a'r boblogaeth yn cynnyddu, a chapel Llanrug mor lawn nad ellid sicrhau eisteddle ynddo, dechreuwyd cynhyrfu am bregethu rheolaidd yma. Gwrthwynebid yn Llanrug, am y cymerid pregeth oddiarnynt bob yn ail Sul; ac nad oedd dim eisieu gwirioneddol am hynny, gan nad oedd dim digon o bellter rhyngddynt i'w gyfiawnhau, a bod y ffordd erbyn hynny yn un mor dda. Cryn siarad ol a blaen. Penderfynu yn y Cyfarfod Misol fod Llanrug, Rhydfawr a Chwm y glo i fod yn daith Saboth. Yn Nhachwedd, 1837, traddodwyd y bregeth gyntaf yma fel rhan o'r daith. Hugh Owen, gwr o Fón, oedd y pregethwr.
Yn nechre 1838 sefydlu'r eglwys yma. Y rhif, medd un, 26; medd arall, 30. Teimlo angen lle mwy. Lledu'r ysgoldy 10 troedfedd; a dyna gapel 34 troedfedd o hyd, 28 o led; a chodwyd hefyd i 18 troedfedd o uchter. Adeiladwyd, hefyd, dý capel. Agor y capel ynghanol mis Tachwedd, 1838. Gwasanaethid gan Moses Jones a Thomas Owen Llangefni. Ym mis Mawrth, 1839, yr oedd Daniel Jones Llanllechid yn pregethu yma. Ar ei bregeth, ebe fe,—"Gweddïwch, bobl,