Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eofn, hyd nes neidiodd John Williams oddiar gefn ei farch, pan wasgarwyd hwy gan ddychryn moesol, mae'n eithaf tebyg, wrth weled pregethwr ar agwedd mor ddieithrol. Fe droai bechgyn ieuainc eu cefnau ar yr eglwys yn rhyw 17 neu 18 oed, er eu derbyn eisoes yn gyflawn aelodau. Mor ryfygus oedd annuwioldeb y lle, fel y teimlai Sion Dafydd Nant y Forgan i'r byw oddiwrth gyflwr barnol y bobl. Methu ganddo â chysgu yn ei wely y nos. Dechreuodd wneud arfer o godi tua phedwar ar y gloch y bore, er erfyn ar i'r Arglwydd yn ei ras drugarhau wrth yr anwiriaid. Fe deimlai lliaws eraill yn ddwys ar y mater.

Fe ddengys dyddiadur Robert Ellis y bu yma ryw gynnwrf. nid bychan yn yr eglwys ei hun dros ysbaid rhai blynyddoedd. Dyma'r cyfeiriadau: 1853. Tachwedd 23, Mercher. Yr eglwys hon yn ymiachau. Lle eto i wella. 1855. Hydref 17, Mercher. Gwastatu'r ysbryd drwg.

Ac wele'r Arglwydd yn trugarhau! Oblegid fe deimlwyd diwygiad '59 yn ddwysach yma nag yn unlle yn y cylch. O un eithaf fe daflwyd yr ardal i eithaf arall. Y rhai annuwiolaf o'r blaen a waeddai fwyaf yn awr dan y dylanwad newydd dieithrol. Bu'r (Dr.) Charles Trefeca yma yn pregethu oddiar,—Y gwyliedydd, beth am y nos? ac oddiar,—Y nos a gerddodd ymhell, sef yn un testun. Y Sul, Awst 7, yr ymdorrodd y diwygiad, ymhen ychydig wythnosau ar ol yr oedfa honno. Dywedai Thomas Ellis Llanystumdwy wrth awdwr cofiant Dafydd. Morgan (t. 403), ei fod yn dychwelyd ryw nos Sul yn '59 o'r Nant uchaf i'r Waunfawr drwy Lanberis, Cwm y glo, Llanrug a'r Ceunant; ac o ddechreu'r daith yn y Nant uchaf i'w phendraw yn y Waunfawr, amgylchynnid ef â llef gweddiau a sain moliant a chaniadau ymwared. Cyfarfodydd gweddiau yma ac acw oedd y rhai'n, a rhai hefyd, mae'n ddiau, yn gweddio a moliannu arnynt eu hunain. Ymollwng gyda'u tymerau a'u nwydau yr oedd rhyw rai er hynny, gan golli'r mantoliad cywir. Yr oedd y bobl oreu yn tueddu i gilio o'r golwg, gan roi'r lleoedd blaenaf i'r dychweledigion gordanbaid: gwneid hwy'n arolygwyr, trysoryddion a'r cyffelyb.. Wrth weled y parodrwydd yma i ddyrchafu'r newydddyfodiaid, ebe hen wr wrth un o'r blaenoriaid,—" Gwell iti rwbio mwy ar yr hen ddodrefn: bydd eu heisieu yn fuan iawn." Ac felly y profwyd mewn rhai enghreifftiau. Diangodd ymaith â'r arian y gwr a godwyd yn