ffennaf, 1879; a bu yma hyd Ebrill, 1884, pryd y derbyniodd alwad i'r Waunfawr. Ionawr, 1886, daeth William Griffith yma o Benmachno. Bu farw yma, Medi 8, 1889, yn 38 oed. Ymsefydlodd y Parch. David Jones yma fel bugail, Hydref 5, 1890, gan ddod yma o'r Gwyddelwern.
Mab i John Griffith, gweinidog yn Jerusalem, Bethesda, oedd William Griffith. Fe gydnabyddid y tad yn ddyn o allu meddwl mwy nag arferol, ac fe hanai o deulu ag yr oedd amryw ohonynt yn ddynion o allu, rhyw un neu ddau ohonynt efallai tuhwnt i John Griffith o ran cynneddf naturiol. (Edrycher Bontnewydd.) A dyn o allu oedd William Griffith, cyfartal â'r goreu yn y teulu, fe ddichon. Yr oedd ffurf meddwl, ac feallai cymeriad, y teulu yn dwyn yr un ddelw. Nid hwyrach mai'r nodwedd ddeallol oedd synnwyr cyffredin ynghydag ymafaeliad meddwl; a'r nodwedd cymeriad, hunanfeddiant mewn amgylchiadau cyffredin, a mantoliad teimlad, heb uchel nac isel, a golwg lled ddigyffro ar y byd, gan ei gymeryd fel y deuai, mewn tymer dda, heb or-uchelgais, heb eiddigedd, heb rwgnachrwydd. Yr oedd William Griffith yn Aberystwyth yn efrydydd oddeutu 1875, wedi gorffen ei gwrs yn y Bala, a chyn myned am ryw dymor i'r Almaen. Yn Aberystwyth, yr ydoedd yn ei gyfnod yn un o'r rhai cryfaf ei feddwl. A chasglodd gryn wybodaeth cyn ac wedi hynny. Ymeangodd mewn cydnabyddiaeth â gwahanol feysydd gwybodaeth a dysg. Cwbl ddirodres ydoedd yn ei ffordd. Medrai daflu goleu mewn modd dedwydd ac mewn byrr eiriau ar ryw rannau o'r Ysgrythur pan yn efrydydd yn y coleg. Yr oedd ei nerth fel pregethwr yn gynnwysedig yn ei allu i daflu goleu ar ei bwnc. Dyma'i ddawn wrth natur a diwylliant, a dyna ei nôd. A thebygir nad oedd ganddo ryw fwy na mwy o gydymdeimlad ag unrhyw ddull arall. Ei arwyddair ef fuasai hwnnw,-Agoriad dy eiriau a rydd oleuni; pair ddeall i rai annichellgar. Fe ddywedir ddarfod iddo benderfynu yn gynnar na cheisiai fod yn bregethwr poblogaidd. Nid anhawdd credu i'r sawl a'i hadnabu. Tebyg, yr un pryd, nad oedd ei ddawn yn y cyfeiriad hwnnw. Wrth ddarllen ei draethawd yn y dosbarth, fe'i daliai fymryn oddiwrtho mewn dull go ddidaro, gallesid tybied; a darllenai braidd yn y cywair hwnnw. Nid elai i'r drafferth un amser i baratoi dim llafurfawr, er y rhoddai ei oreu bob tro yn yr hyn a ddarllenid ganddo. Ac anfynych y ceid gwell na'i draethawd ef, er fod yn y coleg