Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/329

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pryd hwnnw ddynion a ddaeth wedi hynny yn enwog yn hanes y wlad. Gallesid dweyd ar wedd y prifathro, T. Charles Edwards, pan godai William Griffith i ddarllen ei draethiad, y disgwyliai efe rywbeth amgen na chyffredin oddiwrtho. Diau y gallesid fod wedi medi pethau go wych o'i eiddo ped estynasid ei oes: tybiai lliaws y gallasai fod wedi cyfoethogi llenydd— iaeth ei wlad. Eithr mewn paratoi y treuliodd efe ei amser yn hytrach nag mewn cyflawni. Yr ydoedd o hyd yn cynnyddu mewn defnyddioldeb a chymeradwyaeth, gan adael argraff o drylwyrder yn yr hyn a wnae. (Goleuad, 1889, Medi 26, t. 4.)

O fyw, ddilesg feddyliwr,—rhy gynnar
Gennym daeth ei wysiwr!
Annwyl oedd, arweiniol wr,
Barai ennill i'w Brynwr. (Alafon.)

Yn y Cyfarfod Misol a fu yma, Awst 15, 16, 1898, fe gafwyd y saith pregethwr a gododd yn yr eglwys, erbyn hynny yn weinidogion, i'r gwasanaeth pregethu, a dechreuwyd un o'r oedfeuon gan y pregethwr a gododd yma yn olaf. (Goleuad, 1898, Awst 24, t. 4.) Cynhelid y gwasanaeth ar y ffurf yma yn goffadwriaeth am ddileu'r ddyled. Yr oedd y seiat ar ol oedfa nos Lun yn goffadwriaeth am y pethau a welsid ac a glywsid yma. Fe gyfleir yma, allan o Gofiant Ryle Davies (t. 39—44), rai o'r pethau a ddywedwyd: Yr oedd yma rai brodyr hynod. Robert Jones Bont haearn yn treblu'r diolch drwy ei weddïau. John Jones Tai'r ffynnon â'i ddwyster coeth yn cordeddu adnodau. Dafydd Morgan Hafod Oleu â'i weddi yn byrlymu'n newydd ar bob tro fel ffynnon. Dafydd Rolant Tŷ'r clyb yn swyno pawb â'i ddawn nefolaidd. Sion Dafydd, tad Ryle Davies, yn dawel, sylweddol, dwys. Dafydd Prichard y Cross Keys a William Dafydd y clochydd oedd yn weddiwyr hynod. Nid anghofir monynt. Lle dyddorol oedd parlwr y tŷ capel. Purdan pregethwr ieuanc oedd y parlwr. Byddai ambell un weithiau fel y llestr yn odyn y crochennydd yn malurio gan y gwres; ac ambell un arall drwy'r oruchwyliaeth hon wedi ei gymhwyso'n well er defnyddioldeb. Un o brif ddynion y parlwr oedd John Jones Hen lôn. Y doctor y gelwid ef yno. A Thomas Herbert oedd ddyn o feddwl chwim ac ysbryd nwyfus. Weithiau fe droai'r ymddiddan yn fath ar seiat brofiad, pryd y codid ar dro i dir go uchel. Fe fyddai gan J. Pryce