Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/331

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobl ddim profiad. 1863. Ionawr 6. Seiat pen blwyddyn. Golwg obeithiol. 29. Cyfarfod i ddarllen cyfrifon y rhoddion at y capel. Cysurus dros ben. Parhaed. Chwefror 17. Seiat. Aros gartref i sorri. Gwas braf! Mehefin 16. Seiat. Y swyddogion yn siarad y cwbl eu hunain. That is not good. 1864. Chwefror 16. Seiat gomon. Mor hawdd yw traethu gwersi i bobl eraill! Ebrill 19. Seiat. Areithio mater y Cyf. Misol. Gorfod teimlo mai byd helbulus yw hwn. 26. Seiat. Pryd na byddo gwynt, rhai rhwyfo. Mehefin 28. Seiat. Nid dydd ac nid nos. A oes rhywbeth yn fy nghrefydd heblaw nervousness? Medi 1. Llunio rhyw lun o bregeth at agor Disgwylfa. 2. Y cynnyg cyntaf yn Nisgwylfa: Nid oes yma onid tý i Dduw. [Y cyfarfod agoriadol ar y pumed, lle tra- ddododd am y tro cyntaf y bregeth a baratoid ganddo ar y testun hwn.] Tachwedd 1. Seiat. Ceisio codi hwyl a methu. Mor gnawdol yw peth felly! 3. Macpelah. Cyf. darllen. Pwnio gyda thraethawd Edwards ar yr Iawn. Nid oes dim i enaid i'w gael mewn peth fel hyn hefyd. 23. Seiat. Di fynd, difywyd. Nid oes dim mynd heb fywyd. Y peth byw sydd yn symud. Rhagfyr 6. Seiat. Dewis teulu i'r tŷ capel. Ethol- iad gwyllt. Pw! 14. Seiat. Teimlo'n sarhaus oherwydd etholiad tŷ capel. Cael fy nghamgyhuddo. Yr oeddwn yn tybio i mi actio yn hyn yn hollol amhleidiol; eto fe'm cyhuddir o ymddygiad hollol wahanol. Mae hyn yn brofedigaeth i mi. 20. Seiat. 'Rwyf yn pregethu ers 31 ml. Ond heno fu'r tro cyntaf i mi amddiffyn fy hun. Naill ai cefais daith rhy esmwyth, neu 'rwyf i fy hun wedi bod yn rhy esmwyth. 1865. Ionawr 17. Seiat. Wedi cael ymwared â'r hen damp câs oedd ar fy meddwl ers amryw ddyddiau. Ond mae rhywbeth eto. . . . 21. Concert. Ni waeth heb na gwingo, rhaid i blant y byd gael eu ffordd, aed crefydd lle'r elo. Chwefror 21. Seiat. Satan y seti yn bygwth drysu'r cwbl. Mai 9. Seiat. Cyffredin. Y gwresowgrwydd ysbryd yng ngwasanaeth Duw sydd ar ol. Mae cariad Duw yn beth cynnes. Mehefin 20. Seiat. Areithio, areithio, areithio! ymhell y bo, ac yn boeth y bo'r areithio yma! Hydref 3. Seiat. Diddanwch. Ond gormod o areithio. Mae'r ysfa dweyd yn beth anodd ei chadw danodd. Rhagfyr 19. Seiat. Dianc o ganol yr helbul i gysegr Duw. Ymwared i'w gael yno. 1866. Chwefror 13. Areithio ar faterion y Cwrdd Misol. Mae'r eglwysi yn blino ar areithio