Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/333

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

godi pump o flaenoriaid ar ol methu ddwywaith o'r blaen. Nid oeddis yn disgwyl y fath lwyddiant gydag eglwys mor afrywiog ei hysbryd. Ebrill 24. Disg. Gwrando Dr. Harris Jones. Llawer o ryw bethau, efo rhywbeth pwysig ar ol. Mai 7 [os y noswaith arferol]. Trwy fôt o 92 yn erbyn 32 yn fotio cael bugail. Go dywyll! Gobeithio y daw yn oleuach. Mai 21. Colli seiat Disgwylfa. 'Rwyf rywfodd yn dechre marw i'r eglwys hon. Ai cnawd yw hynny? Mae'r cnawd o hyd yn gryf gyda mi. 1880. Mawrth 19. Watkin Williams a'i barti yn areithio yn Nisgwylfa. Cyfarfod etholiadol yn y capel! Och! Fe gyfleir yma atgofion Mr. W. R. Jones: "Yn Hydref, 1868, y daethum i Ddisgwylfa, yn llencyn 16 oed. Un o'r pethau a dynnodd fy sylw gyntaf oedd yr ysgol. Yr oedd hi'n lluosocach, yn fywiocach ac yn drefnusach na dim ysgol a welais o'r blaen. Fy athro cyntaf oedd O. E. Williams, tad y Parch. J. H. Williams Porthmadog. Gwr tra hyddysg yn ei Feibl, ac yn y pynciau athrawiaethol, yn arbennig yn eu gwedd uchel-Galfinaidd. Yr oedd wedi darllen Teyrnasiad Gras Abraham Booth, nes ei gofio cystal a'i ddeall; a darllenodd. liaws o lyfrau eraill o gyffelyb nodwedd. Ond mwy llwyddiannus oedd fel efrydydd nag fel addysgydd, am fod ei allu i gymathu yn fwy na'i allu i gyfrannu. Gwr o gymeriad rhagorol yd- oedd, ac un o'r gweddiwyr cyhoeddus a gymeradwyai ei hun yn fwyaf llwyr i farn y gynulleidfa. Hoff ganddo wrando'r Efengyl, a chyfrifid yn nodedig o ddiogel ei farn am bregeth a phregethwr. Os gofynnid i John Roberts y Sinc, Pwy oedd acw ddoe,' cwestiwn mynych cyn dyddiau'r daflen cyhoeddiadau; nid hwyrach mai'r ateb fyddai,- Hwn a hwn, gwr dierth iawn inni acw: chlywais i mono erioed o'r blaen.' Ho! sut bregethwr ydi o?' 'Wel, nid wn i ddim am hynny weldi; 'rydw'i heb wel'd Owen William eto.' Fe weithiai John Roberts ac Owen William yn yr un fan y pryd hwnnw. Nid oedd raid i John Roberts wrth gynnorthwy neb rhyw ddyn er ffurfio'i farn am bregeth; ond mynnai anrhydeddu Owen Williams yn ol ei haeddiant. Y lle gawsai pregethwr ym marn Owen Williams, dyna y lle oedd iddo yn nheimlad aml un arall.

"Un arall o'm hathrawon oedd Thomas Herbert Ebenezer. Gwr o Fón, gof wrth ei grefft, ond a gychwynnodd fasnach eang yn yr ardal. Dyn galluog a chraff, ac un o'r athrawon goreu. Meddai ar wybodaeth led helaeth, a medr i'w defn-