yddio. Meddai'r math hwnnw ar fedr a barai i rywrai, ac nid ychydig chwaith oedd rheiny, ei gymeryd yn fwy gwybodus a galluog nag ydoedd mewn gwirionedd. Nid oedd yn flaenor, ond yr oedd yn un o fynychwyr cysonaf ac yn un o gymeriadau amlycaf parlwr y tŷ capel, yn nyddiau enwogrwydd y lle hwnnw.
"Dealled y darllenydd mai lle o fri oedd tŷ capel Disgwylfa, yn y dyddiau hynny, am ei gynhadleddau a'i ddadleuon. Os ceid rhywbeth mewn pregeth yn sawru yn o ryw newydd, dyna sylw arno'n union yn y tŷ capel, ar ol yr oedfa. A gwae'r truan. ag nad oedd y sylw mewn gwirionedd mor gynefin i'w feddwl ag y tybiasid wrth ei ddull eofn o'i drafod yn gyhoeddus. Byddai ambell un o'r cyfryw yn tynnu ei hun i fymryn o warth wrth geisio amddiffyn ei hun, ac yntau heb ddigon o adnoddau o'r tucefn; ac ambell un arall cyfrwysach a ymlochesai mewn mudanrwydd. Yr oedd yno eithaf cyfle, mae'n wir, i wr cynefin â'i bwnc. Nid peth cwbl anarferol y dyddiau hynny fyddai i bregethwr ieuanc a fu dan yr ordd fawr yn y tŷ capel ddanfon un arall yn ei le i'w gyhoeddiad dilynol, gyda'r datganiad nad ydoedd mor ryw hwylus o ran ei iechyd ag y dymunai fod. Tebycaf peth mai achos yr afiechyd ydoedd ofn chwil-lys y tŷ capel. Un o'r rhai mwyaf ei fedr, a pharotaf i ymyrryd, a ffraethaf ei dafod, ymhlith gwŷr y chwil-lys oedd Thomas Herbert. Y cyfryw ydoedd ei ddeheurwydd, fel y codymodd. yn deg rai gweithiau wŷr gryn lawer trymach a galluocach nag ef ei hun. Ac nid oedd arlliw o surni na chwerwedd yn ei ysbryd. Eithr yr oedd cwestiyno a dadleu wedi myn'd yn ailnatur iddo. Ni fynnai, er hynny, o'i ran ef, ddwyn y drafodaeth ymlaen ond yn y dymer oreu.
"Un arall o wyr amlwg y tŷ capel oedd John Jones Hen lôn, sef ' y doctor,' fel y'i gelwid. Diwinydd hen ffasiwn oedd. y 'doctor.' A chaeth o'r rhywogaeth gaethaf ydoedd yr Hen lôn, a cheidwad mwyaf gofalus ar yr athrawiaeth. Pan, ar ei dro, yr holwyddorai'r dosbarth hynaf yn yr ysgol, rhyw bwnc diwinyddol fyddai gan y 'doctor' yn ddiffael. Rhyw goflaid o gwestiwn fyddai ei gwestiwn ef; ac nid gorchwyl hawdd oedd ateb fel ag i'w foddhau ef. Mi feistrolodd Gatecism Brown yn drwyadl ei hun; ac nid cwbl gymeradwy ganddo unrhyw ateb na fyddai yn lled agos i eiriad y llyfr rhagorol hwnnw. Efe o bawb a safai yn dynnaf dros uniongrededd; ac efe ydoedd barotaf gwr i alw sylw'r pregethwr at yr hyn a amheuid ganddo