Fe wnaeth Bingley, a oedd yn wr eglwysig ei hun, wir wasan- aeth wrth roi'r portread yma ohono yn ei lyfr, er heb ei enwi : "Fe'n cyflwynwyd i'r ciwrad. Preswyliai mewn annedd isel- aidd nid nepell oddiwrth y llan, heb fod nemor ystafell ynddo heblaw cegin ac ystafell gwsg, ac yn yr olaf yr oedd ei efrydfa. Pan aethum i'r ystafell yr oedd ei fryd ar hen gyfrol unplyg o bregethau. Yr oedd ei wisg braidd yn hynod, sef côt las a aeth yn ddigotwm ers talm, ac yn dwyn olion o ddiwydrwydd y wraig mewn amryw fannau; llodrau corduroy, a gwasgod ddu, ynghyda hancets las wedi ei chlymu am ei ben. Gallasai'r ciwrad gwlad a ddisgrifir gan Hurdis fod wedi gadael ei lyfrau iddo yn ei lythyr cymun, y rhoir hanes yma am danynt: 'Yr hanner dwsin silloedd acw a gynnal, ddirfawr bwys, lyfrau'r ciwrad. Yma, wedi eu rhestru ynghyd, a saif doethion a drud- ion, diweddar a hen. Efe, eu llywydd, fel yr angel gorchfyg- edig, a fwriwyd o'r nef, yn fynych dros eu rhesi arfog a fwrw olygon hir-brofedig, a chlyw ar ei galon ymfalchio, eu pen- naeth unig. Ni raid iddo ef wrth y coflyfr blin: wyneblun pob un sy'n eithaf hysbys, a'i enw a'i nodwedd.' Ni ddyfelid wrth y tuallan fod yr annedd amgen na phreswyl adfyd; ond gwenau y gwr da a daflai londer dros adfyd ei hun. Deugain punt ydoedd ei gyflog, ac ar hynny ynghyda'i dyddyn bychan fe gynhaliai ei deulu, gan fod yn gwbl foddlon a dedwydd. Nid oedd y wraig gartref, ond wrth y droell yn y stafell mi ddyfelais, yn gywir fel y deallais wedyn, y treuliai hi ei hamser yn bennaf mewn nyddu gwlan. Y cyfrif a gefais gan y plwyfolion of nodweddiad y gwr hwn ydoedd, y perchid ac y cerid ef gan bawb, a bod ei holl amser a'i feddylfryd wedi eu llyncu yn y gwaith o wneud y cyfryw ddaioni i'w gyd-ddynion ag y caniatae ei amgylchiadau cyfyngedig. Mi barchaf y gwr y mae ei galon yn gynnes, ei ddwylo'n lân, ei fuchedd yn amlwg gyfateb i'w alwad gysegredig. I'r cyfryw y cyflwynaf fwy na pharch, ag y dengys eu gweithredoedd hwy yn barchedig.' Bu'r gwr hwn farw yn nechre 1801, gan adael gweddw ac un ferch ar ei ol, wedi dwyn selni caled âg eithaf ymroddiad a gwrolfryd."
Daeth Peter Bagley Williams i Lanrug yn 1792 fel rheithor y ddau blwyf, a threuliodd weddill ei oes yma, sef hyd 1836. Ai ynte yn 1802 y gwnawd ef yn rheithor y ddau blwyf? Mae cofnod ysgrifenedig gerbron yn hysbysu hynny. Go brin yw'r cofnodion am dano yn y gwahanol eiriaduron bywgraffiadol.