Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydoedd ef yn fab i Peter Williams yr esboniwr a'r diwygiwr, ac yn dwyn, fe ddywedid, cryn debygrwydd corfforol iddo. Fe'i cyfrifid yn wr da, dyngarol, gwladgarol, duwiol. Yr ydoedd yn esiampl ragorol o'r person efengylaidd Cymreig yn y cyfnod Methodistaidd. Ni ddarfu iddo bellhau oddiwrth ysbryd efengylaidd ei dad, nac oddiwrth ei ysbryd methodistaidd, mor bell ag yr oedd hynny yn gyson a'i safle yn yr eglwys, er ddarfod i'r teulu deimlo'n ddwys oddiwrth yr hyn a olygid ganddynt yn gamdriniaeth i Peter Williams gan y Corff. Fe wnaeth lawer er meithrin egin beirdd, megis Gutyn Padarn, a Robyn Ddu hefyd, onibae ei ddigio gan oferedd hwnnw. Ganddo ef y cawsai Gutyn Padarn wersi, ac yntau yn chwarelwr o'r blaen wrth ei alwedigaeth, pan yn ymbaratoi ar gyfer ei raddio Bu'n gyfeillgar a chynnorthwyol i wyr fel Dafydd. Ddu Eryri ac Owen Williams y Waunfawr. Fe ysgrifennodd liaws o erthyglau buddiol i'r Gwyliedydd, a chyfieithodd Dragwyddol Orffwysfa'r Saint, a chyfansoddodd lyfr addysgiadol i deithwyr ar y sir. Bu'n gryn gasglydd ar hen lyfrau a sgrifeniadau Cymraeg, gan ymddiddori'n fawr ynddynt. Yn y rhan olaf o'i oes fe grynhodd ynghyd lawer o ddefnyddiau ar gyfer hanes Sir Gaernarvon, ond fe ddodwyd yr amcan hwnnw heibio o ddiffyg cefnogaeth fel y tybir. Fe ddywedir hynny ar awdurdod awdwr Old Karnarvon, mewn nodiad o'i eiddo mewn llawysgrifen. Nid yn fynych y gwelwyd gwr a chymaint o'r ysbryd henafiaethol ynddo, ar yr un pryd mor ymroddedig fel bugail eglwysig. Nid esgeulusai fynych ymweliadau â thlodion ei blwyf; a cherid a pherchid ef gan dlawd a chyfoethog.

Fy nagrau a olchant lythrennau'm galarnad,
Wrth imi atgoffa rhinweddau ei oes;
Ei siriol wynepryd a'i fynwes lawn cariad
Dan ddwylaw oer angau fu'n goddef y loes.

Yr annedd a'r llyfrgell lle'n llawen y cyrchwn
I dderbyn ei addysg a gwrandaw ei air,
A'r llwybrau a'r meysydd trwy'r rhai yr ymdeithiwn,
Yn wag o'u preswylydd hybarchus a gair. (GUTYN PADARN.)

Yn 1829 fe ddaeth Henry Bayley Williams yn giwrad i'w dad, ac yn 1836, ar farwolaeth y tad, fe'i gwnawd yntau yn rheithor. Yn ei amser ef y gwnawd y ddau blwyf yn ddwy