Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn 1823 yn Llanddeiniolen. Yr oedd pregethu mwy neu lai achlysurol cyn hynny yn y gwahanol leoedd. (Hanes Eglwysi Annibynol, III.) Daeth Thomas Edwards yn weinidog i Ebenezer yn 1832. Bu am rai blynyddoedd, fe ddywedir, heb weled nemor lwyddiant ar ei lafur. Fe'i dygwyd i'r fath gyfyngdra meddwl o'r herwydd fel yr anghofiai fwyta'i fara. Yn 1837 fe dorrodd diwygiad allan, pryd y chwanegwyd lliaws at yr eglwys. Torrodd diwygiad arall allan yn ei flynyddoedd olaf. Yr ydoedd ei ysbryd ar dân yn y gwaith; a bu cryn alw am dano i gynnal cyfarfodydd yma a thraw. Dilynid ei bregethau âg effeithiau grymus. "Yr oedd ymchwiliad diorffwys i lyfr Duw, manylrwydd ac eangder gwybodaeth hanesiol, diysgogrwydd moesol, synnwyr cyffredin cryf, ac awydd angerddol am fod yn ddefnyddiol, yn llinellau amlwg yn ei gymeriad." Er ddarfod iddo ddioddef trallodion oddiwrth ddynion, yr oedd ei ymlyniad wrth yr eglwys yn fawr. Bu farw yn 1863, yn 62 oed. (Hanes Eglwysi Annibynol, III., 305.)

Fe ddechreuodd y Bedyddwyr bregethu yn Llanberis yn 1786. Ni wyddis mo amseriad cychwyn eglwys; ac wedi bod cyfeillach eglwysig yma am dymor, fe symudwyd yr achos i Ddinorwig. Yn 1820 fe ail-gychwynnwyd; ac yn y flwyddyn honno yr adeiladwyd capel Sardis, Dinorwig, am y waith gyntaf. Yr oedd Jane Griffith, un o Fedyddwyr cyntaf yr ardal, yn nain i'r gweinidog disglair gyda'r Bedyddwyr, R. D. Roberts, Llwynhendy. Yr ydoedd ef yn frodor o Lanberis, ac yn un o blant hynotaf yr ardaloedd hyn, yn un o areithwyr blaenaf Cymru yn ei oes, yn bregethwr effeithiol ac yn arwein- ydd ymhlith ymneilltuwyr y wlad. Yr oedd ei dad ef, sef David Roberts y Foel gron, yn un o'r rhai y bu pwys yr arch yn Sardis yn drymaf ar ei ysgwyddau. Mae Tecwyn Parry yn sylwi ar yr "Hen Gloddiwr," a fu'n weinidog yn Sardis am flynyddoedd, ei fod yn gymeriad ardderchog, yn wr o gryn allu ac yn bregthwr grymus iawn.

Yn 1862 y codwyd capel gan y Wesleyaid yn Llanddeiniolen, ac ymhen rhyw 12 mlynedd yn ddiweddarach yn Llanberis.