Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ein cof ni; ac yr oedd yr holl aelodau yn Ebenezer, canys dyna enw yr ysgoldy yn aelodau yn Nghorris, er y cynhelid cyfarfod eglwysig yno hefyd. Cofiwn yn dda y byddai John Jones, Gyfylchau, wedi i Humphrey Davies, ar nos Sabbath, orphen cyhoeddi y moddion am yr wythnos, yn codi ar ei ol ac yn cyhoeddi seiat nos Fercher yn Ebenezer. Yn 1874, yn y lle y safai y capel cyntaf, adeiladwyd y capel hardd a chysurus presenol.

Bu mewn cysylltiad â'r achos yn y lle hwn lawer o gymeriadau tra dyddorol. Un o rai rhagorol y ddaear oedd William Edwards, Ceinws; a cholled fawr a gafwyd yn ei farwolaeth gynar, ac (in golwg ni) anamserol. Disgwylid gwasanaeth gwerthfawr oddiwrtho yn eglwys Corris am lawer o flynyddoedd.

John Jones, y Gyfylchau, yr hwn nad yw ei farwolaeth ond amgylchiad diweddar, a fu am dymor maith yn brif golofn yr achos yn Esgairgeiliog. Gŵr o ddawn helaeth a gwybodaeth eangach o. lawer na'r cyffredin oedd efe; a thra gwreiddiol hefyd mewn llawer o bethau. Dygodd i fyny deulu lliosog, ond y maent oll wedi marw erbyn hyn oddigerth un mab iddo. Yr oedd dau o'i feibion, David a John, a fuont farw yn wŷr ieuainc, yn rhai tra addawol. Gadawodd John Jones y gymydogaeth ychydig amser cyn ei farwolaeth; ac nid oes yn awr yn Nghorris neb o'i berthynasau ond plant ei unig ferch.

Hawdd fuasai crybwyll am eraill, megis yr hen frawd digrif a dyddorol, Dafydd Rhobert, a Lowri ei wraig; ond y mae ein terfynau yn ein gorfodi i ymatal.

Rhoddwn air yn olaf am yr achos yn Bethania. Crybwyllwyd mewn penod flaenorol am yr Ysgol yn y Capel Bach ; ond ymddengys mai nid yno y dechreuodd yn y gymydogaeth a elwir yn fynych, yn y rhan isaf, top Corris. Dywedir wrthym mai yn y Fronheulog y dechreuodd; ond pa bryd nis gwyddom. Nis gwyddom ychwaith dros ba amser y cynhaliwyd