Yn ffermdy Esgairgeiliog, dynion heb fod yn aelodau eglwysig oedd y rhan fwyaf o'r rhai a gymerent y blaen gyda'r Ysgol Sabbothol. Yn eu mysg, heblaw Edward Edwards, yr oedd William Jones, yr Ysgubor Fach. Yr ydym yn ei gofio ef yn dda, er nad oes bellach ers llawer o flynyddoedd gareg yn aros o'r ty y preswyliai ynddo. Un arall ydoedd ewythr i Doctor Evans, oedd yn lletya yn Esgairgeiliog, ac yn cael mwynhad neillduol wrth ddysgu y wyddor i'r plant. Ond estynid iddynt gymorth parod gan nifer o frodyr o Gorris, ymysg pa rai yr enwir Humphrey Davies, Abercorris; William Richard, Ty'r capel; Williarn Jones, Tanrallt; Hugh Humphrey, y Pentre; a'i fab Humphrey Hughes, y Pandy.
Wedi dyfodiad John Jones, o Lanwrin, i'r Gyfylchau, ymddiriedwyd gofal yr ysgol iddo ef. Wedi ei dwyn ymlaen yn y fferrndy am flynyddoedd, ac i gyfnewidiadau gymeryd lle yno, teimlwyd yn angenrheidiol cael capel, a gwnaed cais am dir i adeiladu arno gan Doctor Evans. Nid oedd ef yn foddlawn i ganiatau tir i adeiladu lle i bregethu ynddo, er ei fod yn gwbl barod i roddi tir at ysgoldy. Ond teimlai y cyfeillion erbyn hyn, wrth weled eu nifer yn lliosogi, ar ffordd yn bell i gerdded i Gorris, mai dymunol fyddai cael lle i bregethu ynddo yn achlysurol; a chawsant dir am bris rhesymol i'r amcan hwnw, gan Mr. Thomas Edwards, Ceinws, ynghyd âg addewid am £15 tuag at y draul o'i adeiladu. Nid oedd efe ar y pryd yn aelod eglwysig. Meibion iddo ef ydynt Richard Edwards, Ceinws; a David Edwards, Rhywgwreiddyn. Bu mab arall iddo, William Edwards, Ceinws, yn flaenor ffyddlawn am rai blynyddoedd yn eglwys Corris, cyn sefydlu eglwys yn Esgairgeiliog.
Yn y Drysorfa, 1840, dywedir:— Mae ysgoldy yn awr ar waith yn ardal Esgairgoiliog, yn saith llath wrth wyth o faintioli. Ond ymddengys na agorwyd ef hyd y flwyddyn ganlynol, —1841.Unwaith yn y mis y ceid pregeth yno am flynyddoedd