Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr eglwys nesaf y rhaid sylwi arni ydyw yr un yn Esgairiog. Anhawdd ydyw cael hysbysrwydd penderfynol pa bryd y dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol yn yr ardal hon. Yn ol y wybodaeth a gawsom, yr oedd William Jones, Tanyrallt, yn un o'r prif golofnau yn ei chychwyniad. Mewn bwthyn bychan diaddurn, o'r enw Pant—teg y cynhelid hi; ond wedi iddi gynyddu ychydig, symudwyd hi i'r Ty Mawr; ac oddiyno drachefn i Flaenglesyrch, lle y preswyliai Thomas a Jane Peters, ynghyd a brawd i Jane Peters o'r enw David Jones. Yn y lle hwn yr oedd wedi dyfod o fewn terfynau y gynulleidfa a berthynai i Gapel Sion, Llanwrin. Dywedwyd wrthym y cynhaliwyd ysgol yno am lawer o flynyddoedd. Yn y cyfnod hwnw mae'n ymddangos, y cychwynwyd ysgol gan Hugh Pugh, yn Rhywgwreidd. yn, yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel sylfaenydd yr achos Annibynol yn y lle. Mynychid yr ysgol yno am dymor gan ychydig o Fethodistiaid; ond oherwydd rhyw amgylchiadau ymneillduasant i Esgairgeiliog, i dŷ gŵr o'r enw Edward Edwards, yr hwn a gadwai y lle fel gwas i Doctor Evans, o'r Fronfelen. Nid oedd y gŵr hwn ar y pryd yn aelod eglwysig, ond rhoddodd dderbyniad croesawus i'r Ysgol Sabbothol.

Tua dechreu y ganrif bresenol nid oedd un Tŷ o gwbl lle y saif yn awr bentref Esgairgeiliog. Ond yn lled gyna'r yn y ganrif, adeiladwyd gan deulu y Ceinws, yn agos i'r lle y saif y capel presenol, factory, yr hon a alwyd Ffactrir Ceinws. Yr ydym yn cofio cael ein hanfon ar neges iddi yn nyddiau ein mebyd. Ymhen amser, adeiladwyd ychydig o dai gerllaw iddi, nes y daethant yn raddol i gael yr enw Pentre Caerbont, neu Bentrer Ceinws. Wedi adeiladu capel Acchor yno, buwyd yn galw y lle am beth amser yn Bentref Acchor; ond wedi adeiladu yno gapel gan y Methodistiaid, galwyd ef am flynyddoedd yn Bentref Samaria. Mae yr enw hwn, pa fodd bynag, a rhai enwau eraill, wedi ymgolli bellach yn yr enw Pentref Esgairgeiliog.