Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny yn gwbl reolaidd; ac y trefnwyd i Aberllefeni ac Esgairgeiliog fod yn daith Sabbothol ar eu penau eu hunain, a Chorris a Bethania yr un modd.

Bu yr ysgoldy yn Pantymaes heb nemawr gyfnewidiad arno, oddigerth rhoddi llawr coed ar y llawr ceryg oedd iddo ar y cyntaf am lawn ugain mlynedd. Yn 1859 yr oedd wedi myned yn rhy fychan; a helaethwyd ef y flwyddyn hono, gan roddi ynddo eisteddleoedd cysurus yn lle y meiniciau a fuasent ynddo cyn hyny. Cyn ei fod braidd wedi ei orphen torrodd y diwygiad allan ynddo; a chofiwn yn dda am un chwaer yn dywedyd ar ol y gorfoledd y noson gyntaf, Dyna dwymniad iawn ar y capel newydd. Yn 1874, adeiladwyd y capel presenol yn Pensarn; ac er fod y draul yn fawr y mae y ddyled oll wedi ei thalu er 1881. cynhaliwyd jiwbili Mehefin 26, 1881.

Naturiol fyddai i n¡ ymhelaethu ar helyntion yr achos yn y lle hwn. Magwyd yma lawer o ieuenctyd dymunol, ond chwalwyd hwy, dô ar ol tô, i wahanol ranau y byd. Aeth nifer o honynt i America, ac eraill i Awstralia; ac wrth feddwl am ei mynych golledion, nis gallai Rowland Evans ymatal rhag siarad am dani fel perth yn llosgi ac heb ei difa. Dywedai y diweddar Barchedig William Roberts, Amlwch, fod achos Mab Duw wedi medru fforddio ei golli ef ei hunan; ac y gall yn hawdd fforddio bellach bob colled arall. Yn Aberllefenni cafwyd llawer o golledion y tybiasid ymlaen llaw a fuasent yn ddinystr iddo, ac a barasant hefyd lawer o bryder i'w garedigion; ond y mae, er y cwbl, yr olwg arno heddyw lawn mor lewyrchus ag y bu erioed.

Erbyn hyn y mae capel bychan wedi ei adeiladu yn yr Alltgoed; yr hwn a agorwyd Tachwedd 26, 1871, ac yn yr hwn y pregethir yn rheolaidd ar y Sabbothau. Bechan yw y boblogaeth, ac o ganlyniad bechan yw y gynulleidfa; ac nid oes eglwys wedi ei ffurfio yno hyd yma. Yn Aberllefenni y mae y brodyr ar chwiorydd yn aelodau.