Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ganwyd ef yn Bryntwr, Penmorfa, Sir Gaernarfon, Ionawr 13eg, 1806. Ar ol amryw symudiadau daeth i weithio i chwarel Aberllefenni, yn y flwyddyn 1828. Y pryd hyny nid oedd ei fuchedd ddim gwell na chynt; a dilynodd yr hen arferiad o yfed a meddwi, ynghyd it llawer o feiau eraill: a mawr oedd y dylanwad oedd ganddo ar ei gydweithwyr i'w temtio i'w ddilyn mewn drwg, fel plant yn dilyn eu tad. Yn 1829, priodwyd ef ag Anne Roberts, o ardal y Garn, Sir Gaernarfon. Wedi priodi aeth yn dlawd, a dechreuodd weled ei ffolineb yn gwario ei arian ar ddiodydd meddwol, a rhoddodd hwy heibio yn hollol. Yr adeg hono, o dan weinidogaeth yr hen bregethwr parchedig Thomas Owen, o Fon, effeithiwyd cymaint arno fel yr aeth ar unwaith i ymofyn am le yn nhy Dduw; a mawr oedd syndod y brodyr yno pan y gwelsant ef.

Bu wedi hyn yn wrthgiliedig am ychydig, oherwydd na weinyddwyd disgyblaeth arno am ryw gamymddygiad o'i eiddo ag y tybiai efe oedd yn haeddu hyny, ond na wyddai y blaenoriaid ddim am dano. Mynai ef nad oedd eglwys a oddefai y fath beth yn eglwys i Grist. Ond daeth yn ol eilwaith, ac ymroddodd i ddarllen ac efrydu, ac i fod yn ddefnyddiol gyda chrefydd. Yn 1835, dewiswyd ef yn flaenor yn Nghorris, ac yn Awst 1836, dechreuodd bregethu. Yr oedd felly yn flaenor ymhen llai na chwe blynedd ar ol gadael ei annuwioldeb cyhoeddus, yr hyn sydd ynddo ei hun yn dystiolaeth ddigonol am y syniadau uchel a goleddid yn fuan am dano yn meddyliau ei frodyr. Ar ddirwest y dechreuodd siarad yn gyhoeddus; ac efe oedd y dirwestwr cyntaf yn yr holl gymydogaeth. Yn y Dirwestydd, Ionawr 1837, ceir y nodiad canlynol am gychwyniad dirwest yn Nghorris :Yr oedd yma un wedi mynwesu yr egwyddor ddirwestol ers mwy na dwy flynedd, ac yn nechreu yr haf diweddaf, tarawodd wrth un arall o'r un egwyddor; ac Awst 12, 1836, cymerasant lyfr bychan, ac ysgrifenasant yr ardystiad, a dywedai llawer eu bod wedi