Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynfydu. Ond er hyny, cynyddu yn raddol a wnaethom, a thrwy ymweliad Mr. D. Charles ac eraill â ni yr ydym heno (Rhag. 15) yn 214. David Jones, Ysgrifenydd. Y cyntaf yn ddiau oedd Morris Jones; ac, fel y crybwyllwyd mewn penod flaenorol, ymddengys mai Humphrey Edward, Cwmcelli, oedd y llall. Cawsom hanes y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gan y diweddar Barch. John Jones, Brynteg, a dodwn ef i lawr yn ei eiriau ef ei hun : Morris Jones, y pregethwr, oedd y dirwestwr cyntaf, ac ymunodd ychydig ag ef cyn cael cyfarfod. Un diwrnod, yn chwarel y Ceunant Du, darfu i amryw o honom roddi ein henwau, gan ddweyd y byddai yn rhaid cael cyfarfod cyhoeddus. Rhoddwyd yr enwau i mi i'w cymeryd i Morris Jones, i'r Ty Engine, lle yr oedd ef yn gweithio ceryg beddau; ac yno y penderfynwyd cael y cyfarfod cyntaf, yr hwn a gafwyd yn ddioedi. Nid oedd neb dieithr yn y cyfarfod, ond cymerodd amryw yr ardystiad. A dyma ddechreuad y Gymdeithas ddirwestol yn y gymydogaeth.

Yn llyfr dyddorol a gwerthfawr y Parchedig Ddr. John Thomas, ar Y Diwygiad Dirwestol yn Nghymru, ceir y dyfyniad canlynol o lythyr gan Mr. D. Ifor Jones, yn cynwys hysbysrwydd a dderbyniasai o enau ei dad.yn—nghyfraith, y diweddar Barch. Hugh Roberts, Corris : Cynhaliwyd y Cyfarfod Dirwestol cyntaf yn yr ardal hon, Tachwedd 5, 1836, a fi oedd y cyntaf a siaradodd ynddo. Cynhaliwyd yr ail, Tachwedd 12, 1836, yn yr hwn yr oedd Dr. Charles yn bresenol, ac yn llosgi alcohol. Yr oeddwn i yn ddirwestwr er mis Hydref; ac yr oedd pedwar ar ddeg o honom yn ffurfio y Gymdeithas. Yr ydym yn tybio y rhaid fod cyfarfodydd wedi eu cynal yn Aberllefenni cyn y cyfarfod hwn; ac mai nid at yr un cyfarfod y cyfeiria y ddau adroddiad.

Yr oedd Morris Jones yn ymresymu yn bersonol dros ddirwest ers amser cyn dechreu siarad yn gyhoeddus drosti; ac iddo ef yn ddiau y mae Corris ar amgylchoedd yn ddyledus